Stadiwm griced SSE SWALEC
Gêm griced ym Mharc yr Arfau, 1960
Cartref Clwb Criced Morgannwg yw’r SSE SWALEC – stadiwm â seddi i 16,000 o wylwyr gan gynnwys cyfleusterau o’r radd flaenaf i’r chwaraewyr, cefnogwyr, noddwyr a’r cyfryngau.
Cyn ailddatblygu'r stadiwm yn 2006, roedd gan y stadiwm le i tua 4,000 o wylwyr. Roedd y standiau wedi'u gwneud o bren. Symudwyd sawl un i Erddi Sophia o Barc yr Arfau, lle cawsant eu gosod ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Chwaraeodd Morgannwg yno nes symud i Erddi Sophia ym 1967.
Morgannwg yn dathlu ennill y Bencampwriaeth
Sirol yng Ngerddi Sophia 1969
Cwblhawyd y stadiwm newydd ym Mawrth 2008 am tua £16m. Roedd hyn yn fuan ar ôl i Griced Morgannwg gyhoeddi cytundeb noddi stadiwm â’r cyflenwr ynni SSE SWALEC a oedd yn cynnwys yr hawliau enwi i’r stadiwm drawiadol.
Mae ganddi hefyd gyfleusterau cynadledda a gwledda, ac mae wedi'i defnyddio ar gyfer digwyddiadau gwleidyddol yn ogystal â chyfarfodydd a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Gwefan Clwb Criced Sirol Morgannwg
Angen cymorth i weld lleoliad Gerddi Sophia? Cliciwch yma am fap
Mae'r codau QR ar gyfer y dudalen hon yn safle rhif 10 (coch) ar y map isod.