Goleuadau’r stadiwm, Gerddi Sophia

Glamorgan county cricket club logo

Gosodwyd goleuadau parhaol yma yn 2004. Fel nifer o stadia criced rhyngwladol eraill, mae gan yr SSE SWALEC gyfres o oleuadau polyn. Fe’u defnyddir mewn gemau rhyngwladol, yn ogystal â gemau domestig Criced Morgannwg pan fydd y chwaraewyr yn defnyddio pêl wen.

Mae’r goleuadau’n galluogi gemau dydd/nos i gael eu cynnal wrth i’r chwarae bara ar ôl iddi nosi, pan fydd y chwaraewyr yn gwisgo dillad lliw ac yn defnyddio peli gwynion. Fel arfer mae cricedwyr yn gwisgo gwyn ac yn defnyddio peli coch, a all fod yn anodd i chwaraewyr eu  gweld dan oleuadau artiffisial. Mae’r peli gwynion wedi’u gwneud o’r un deunydd lledr â’r peli cochion, ond mae staen gwyn arnynt.


Photo of floodlit Glamorgan cricket pitch
Goleuadau’r SSE SWALEC

Mae Morgannwg wedi cynnal gemau mawr eraill dan y goleuadau, gan gynnwys Diwrnod Olaf cystadleuaeth Twenty20 2013 pan gurodd Hampshire Swydd Efrog gerbron torf o 16,000. Mabwysiadwyd y fformat Twenty20 gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr yn 2003 ar gyfer gemau sirol. Caiff pob tîm un batiad yr un, ac ni chaiff pob batiad bara mwy na 20 pelawd (20 set o chwe phêl wedi’i bowlio).

Cyn gosod y goleuadau, roedd gemau criced weithiau’n cael eu tarfu arnynt neu eu torri’n fyr petai’n dod yn rhy dywyll i chwaraewyr weld y bêl yn glir. Mae fformiwla fathemategol, sef Dull Duckworth-Lewis Stern (DLS) yn bodoli i gyfrifo sawl rhediad y byddai eu hangen ar yr ail dîm i ennill y gêm pe bai’r chwarae’n cael ei darfu gan law neu olau gwael, a faint o amser chwarae a gollwyd.

Gwefan Clwb Criced Sirol Morgannwg

Gwefan Awyr Agored Caerdydd

Angen cymorth i weld lleoliad Gerddi Sophia? Cliciwch yma am fap

 

Glamorgan cricket club  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button

 

Mae'r codau QR ar gyfer y dudalen hon yn safle rhif 9 (coch) ar y map isod.

 cricket-walk-map