Gwastatir llifogydd Afon Taf, Gerddi Sophia
Nid yw Afon Taf ond ergyd chwe rhediad o’r cae criced, sydd ar wastatir llifogydd yr afon. Mae’n aml yn gorlifo, gan achosi llifogydd a phroblemau iechyd yng Nghaerdydd.
Ym 1797 dywedodd ynadon lleol y dylai sianel afon syth newydd gael ei chloddio (i’r dwyrain o’r Gerddi Sophia cyfoes). Tua 25 mlynedd yn ddiweddarach, ystyriodd Ardalydd Bute, a arferai fod yn berchen ar Gastell Caerdydd a Pharc Bute heddiw, gymryd camau cyfreithiol yn erbyn y tirfeddiannwr ar yr ochr draw a blannodd goed ar y llinell ddŵr a chreu trapiau gro. Roedd hyn yn atgyfnerthu’r lan orllewinol, ond yn achosi i’r afon ysgubo darnau mawr o dir yr Ardalydd ymaith! Gwnaed toriad newydd yng nghanol y 1820au.
.Darn o Amlinell Arolwg Ordnans 1851.
Ffynhonnell: Llyfrgell Ganolog Caerdydd
Yn y darn o fap 1851 ar y dde, mae’r darn glas yn dynodi rhan o gwrs ymylol blaenorol yr afon. Mae’r cae criced bellach ar dir y cornel chwith uchaf. Mae Castell Caerdydd yn y cornel de gwaelod.
Cafodd cynllun afon arall, ymhellach i’r de, effaith ar hanes criced Morgannwg. Ar ddiwedd y 1840au, trefnodd y peiriannwr enwog Isambard Kingdom Brunel ddargyfeirio’r afon fel y gallai South Wales Railway greu gorsaf – Caerdydd Canolog bellach—yn y gofod rhwng yr afon a Chamlas Morgannwg.
Gwnaeth y gwaith dargyfeirio hwn hefyd adennill ardal fawr o ddôl afonig i’r gorllewin o Westy’r Arfau Caerdydd, a leolwyd ger gwesty cyfoes yr Angel. Daethai’r ardal hon i’w galw’n Barc yr Arfau Caerdydd ac yma chwaraeodd CCS Morgannwg ei gêm gyntaf ym 1889 a daliodd i chwarae yno tan 1996. Symudodd i Erddi Sophia ym 1967.
Heddiw, mae Stadiwm Principality ar y rhan fwyaf o’r tir a adenillwyd, yn cynnal cyngherddau pop a digwyddiadau eraill yn ogystal â chwaraeon.
Gwefan Clwb Criced Sirol Morgannwg
Angen cymorth i weld lleoliad Gerddi Sophia? Cliciwch yma am fap
Mae'r codau QR ar gyfer y dudalen hon yn safle rhif 8 (coch) ar y map isod.