System ddraenio’r cae criced, Gerddi Sophia, Caerdydd
Cae criced yr SSE SWALEC yw'r un o'r rhai sy'n sych gyflymaf ym Mhrydain, diolch i system ddraenio a osodwyd yn 2008. Mae'n cynnwys trefniant patrwm saethben o sianeli dan y dywarchen, wedi’u cysylltu â thanciau storio. Hyd yn oed ar ôl glaw mawr, mae'r pridd yn draenio'n gyflym a bydd y dŵr yn cael ei ollwng i Afon Taf. Gall y system ymdopi â 30 mililitr o ddŵr yr awr.
Roedd dŵr ar y cae’n broblem gyffredin yn negawdau cyntaf CCS Morgannwg yng Ngerddi Sophia ar ôl ei fabwysiadu ym 1967. (Ni ellir chwarae criced ar bridd gwlyb, a fyddai'n effeithio’n ddifrifol ar gyflymder a chyfeiriad y bêl rhwng y bowliwr ar batiwr, a gwneud yr arwyneb yn rhy lithrig i ddalwyr redeg arno). Roedd yn rhaid gohirio neu hyd yn oed ganslo nifer o gemau oherwydd dŵr ar y cae, sydd ar ddôl isel ar lan yr afon.
Arferai'r afon orlifo weithiau yn y gaeaf, ond yn y 1980au codwyd y glannau fel rhan o gynllun diogelu rhag llifogydd y ddinas.
Mae gan Griced Morgannwg hefyd orchudd hofran, a roddwyd gyda benthyciad o £500,000 gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr. Mae’n cynnwys system gylched awyr, sy’n debyg i hofranlong. Gellir ei osod yn gyflym os bydd glaw’n rhoi terfyn ar gêm, gan atal y cae rhag cael ei dirlenwi gan law.
Gwefan Clwb Criced Sirol Morgannwg
Angen cymorth i weld lleoliad Gerddi Sophia? Cliciwch yma am fap
Mae'r codau QR ar gyfer y dudalen hon yn safle rhif 7 (coch) ar y map isod.