Y cae criced, Gerddi Sophia
Chwaraeir criced ar gaeau tywarch, gan ddefnyddio gwair wedi’i rolio a’i dorri’n isel yn stribynnau tua 22 llathen (tua 20 metr) o hyd. Yn y degawdau cyntaf ar ôl sefydlu CCS Morgannwg ym 1888, câi'r un llain ei defnyddio sawl gwaith dros y tymor. Byddai’r draul arno’n effeithio ar gyflymder a gwyriad y bêl wrth iddi ruthro am y batiwr.
Mae’r gêm broffesiynol gyfoes yn gofyn am fwy o gysondeb. Yn yr SSE SWALEC mae 30 llain, y defnyddir 20 ar gyfer gemau proffesiynol a 10 ar gyfer ymarfer.
Chwaraewyr Morgannwg yn ymarfer ar leiniau'r SSE SWALEC
tra bod staff y cae (yn y cefndir) yn defnyddio'r rholiwr trwm i
baratoi llain at gêm
Amgylchynir y cae gan wair parhaol wedi’i dorri'r ardal allanol. Mae ffin yr ardal chwaraeon 55 metr i ffwrdd o Ben Afon y cae (dwyrain) a 57 metr o ben Heol Y Gadeirlan, lle mae’n cymryd ychydig yn fwy o ymdrech i fatiwr sgorio pedair! (Rhoddir pedwar rhediad pan fydd y bêl yn taro’r ffens derfyn).
Y pellter rhwng y Pafiliwn ar un ochr y cae a’r Eisteddle Mawr gyferbyn yw tua 200 metr. Mae tîm o bedwar staff llawn amser yn gofalu am yr ardal chwarae a’r ardal ymarfer awyr agored tu ôl i’r Pafiliwn, gyda chwech ychwanegol i gemau mawr. Caiff y gwair allanol ei dorri ddwywaith bob diwrnod gêm, gan gymryd dwyawr o waith y staff bob tro.
Mae’r staff yn dechrau paratoi’r cae tua 12 diwrnod cyn gêm. Ar fore’r gêm, caiff y cae ei dorri un tro olaf a’i rolio cyn gosod y marciau mewn gwyn, coch neu las i ddynodi safleoedd y wicedi a’r crisiau (yr ardal o gylch pob wiced).
Gwefan Clwb Criced Sirol Morgannwg
Angen cymorth i weld lleoliad Gerddi Sophia? Cliciwch yma am fap
Mae'r codau QR ar gyfer y dudalen hon yn safle rhif 6 (coch) ar y map isod.