Parc agored i'r cyhoedd cyntaf Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd
Arglwyddes Sophia
Gerddi Sophia yw’r parc cyntaf yng Nghymru i agor i’r cyhoedd. Crëwyd y gerddi yn 1857. Mae’r gerddi yn cymeryd enw Sophia (llun ar y dde), gweddw Ail Ardalydd Bute. Roedd y teulu Bute yn berchen ar Gastell Caerdydd a darnau helaeth o dir yn yr ardal, yn ogystal â dociau llewyrchus Caerdydd.
Treuliodd yr Argwlyddes Sophia (1809-1859) a’i mab, Trydydd Ardalydd Bute, amser ar gyfandir Ewrop, lle y gwelsant y parciau mawr a grëwyd er defnydd y cyhoedd. Penderfynodd yr Ardalydd ifanc y dylent greu parc tebyg yng Nghaerdydd, felly crëwyd y gerddi i ddarparu lle hamdden. Ym Mawrth 1857 adroddodd y wasg y byddai "taith gerdded addurnol a thiroedd pleser chwaethus" yn cael eu cyflwyno yn yr haf i drigolion Caerdydd, a fyddai'n gallu "rhodio ymysg blodau persawrus a choed cysgodol". Nid oedd unrhyw dir o'r fath yn bodoli yn unman arall yng Nghymru, ac fe fyddai Caerdydd yn gosod "esiampl dda i drefi eraill".
Darlun Fictoraidd o Erddi Sophia
Yn y 1870au amgaewyd rhan o Erddi Sophia i ffurfio lawnt fowlio ffurfiol gyntaf Caerdydd, lle mae'r gêm yn cael ei chwarae o hyd. Yn y darlun Fictoraidd (chwith), fe welwch y lawnt fowlio yn agos at y top, i’r chwith o Afon Taf.
Erbyn dechrau'r 20fed ganrif roedd trigolion Glan-yr-afon, Treganna a Phontcanna yn chwarae criced, rygbi a phêl-droed ar y maes hamdden yng Ngerddi Sophia. Ym 1905 penderfynodd Clwb Pêl-droed Glan-yr-afon – a oedd wedi dechrau fel tîm criced – newid ei enw i Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd. Fe gymerodd beth amser i Gymdeithas Bêl-droed Cymru dderbyn yr enw newydd. Yma y chwaraeodd CPD Dinas Caerdydd ei gêm gyntaf a gofnodwyd, ym 1906 yn erbyn Barry West End.
Ers 1967 mae Gerddi Sophia wedi bod yn gartref i Glwb Criced Morgannwg.
Gwefan Clwb Criced Sirol Morgannwg
Angen cymorth i weld lleoliad Gerddi Sophia? Cliciwch yma am fap
Mae'r codau QR ar gyfer y dudalen hon yn safle rhif 5 (coch) ar y map isod.