Hen Eglwys Llangelynnin
Hen Eglwys Llangelynnin
Saif yr eglwys wledig hon mewn mangre drawiadol ac anghysbell wrth droed mynyddoedd y Carneddau. Yn yr oes gynhanesyddol a’r Rhufeinig, arferai pobl deithio drwy ucheldir yr ardal hon. Ar un adeg, y ffordd drol sy’n mynd heibio’r fynwent oedd y brif ffordd rhwng Penmaenmawr a Dyffryn Conwy.
Adeiladwyd yr eglwys o gerrig geirwon. Credir fod corff yr eglwys yn dyddio o’r ddeuddegfed ganrif neu’r drydedd ar ddeg, gweddillion llofft y grog o’r bymthegfed a’r to o’r unfed ar bymtheg. Tu fewn, ar y mur dwyreiniol, ceir llun o benglog ac esgyrn croes a ddarganfuwyd ym 1993. Mae’n rhan o arysgrif amlwg y Credo a’r Deg Gorchymyn a ddaeth i’r golwg yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif.
Ym 1840, codwyd eglwys newydd i gymryd lle yr hen un, honno hefyd ar enw Celynnin Sant, mewn man mwy hygyrch yn agos at Rowen. Digysegrwyd yr eglwys newydd, ond cynhelir gwasanaethau achllysurol o hyd yn yr hen eglwys, yn yr haf fel arfer.
Yn y fynwent ceir ffynnon sydd fel yr eglwys yn gysegredig i Gelynnin Sant. Credid ar un adeg fod iddi gyneddfau gwella cleifion, yn enwedig plant.
Y chweched ganrif oedd cyfnod Celynnin; dywedir ei fod yn un o ddeuddeg mab Helig ap Glannog a gollodd ei gartref, sef Llys Helig, pan y’i boddwyd gan y môr. O ganlyniad, cadwodd ei feibion at fuchedd dduwiol, rhai ohonynt fel mynachod.
Ym mis Awst 2020 ordeiniwyd y Parch Eryl Parry yn yr eglwys gan y Gwir Barchedig Andy John, Esgob Bangor. Ni ellid cynnal y seremoni yng Nghadeirlan Bangor (y lleoliad arferol am ordeiniadau) oherwydd cyfyngiadau yn ystod pandemig Covid-19. Roedd yr esgob, Eryl a'r nifer fach o westeion yn gwisgo mygydau dros eu trwynau a'u cegau. Mae'n debyg mai hwn oedd ordeiniad cyntaf offeiriad yma, ac yn sicr ordeiniad cyntaf offeiriad benywaidd yma. Mae'r llun ôl-ordeinio (diolch i'r ffotograffydd Mark McNulty) yn ei dangos yn ei hesgidiau cerdded gyda'r esgob, yn dal ei fwgwd yn ei law dde.
![]() |
![]() ![]() |