Ffynnon Sant Eilian, Llaneilian

Mae'r ffynnon hon, yn agos at Lwybr Arfordir Cymru, wedi'i lleoli mewn ardal ddiffaith ymhlith creigiau sydd wedi torri.
Roedd Sant Eilian ar un adeg yn Esgob Lindisfarne, Northumberland. Cafodd ei barchu am sancteiddrwydd ei fywyd. Daeth llawer o bobl o rannau mwyaf anghysbell Prydain i'r lle hwn, lle'r oedd wedi byw. Roeddent yn dymuno cael, trwy eu pererindod a'u offrymau addunedol, fudd ei ffafr a'i amddiffyniad.
Roedd hi'n arferiad i ymweled â Ffynnon Sant Eilian ar drothwy gŵyl y sant (13 Ionawr). Ar ôl yfed y dŵr byddent yn penlinio am beth amser cyn allor y capel bach oedd wedi ei chodi dros y ffynnon. Wedi hynny byddent yn ymddeol i Eglwys Sant Eilian, lle byddent yn perfformio seremonïau eraill, gan gloi gydag offrwm i'r sant. Roedd yr arferiad hwn yn bodoli tan ddiwedd y 19eg ganrif. Er bod y ffynnon bron â sychu a'r capel yn adfeilion, roedd pobl yn dal i droi at y lle hwn, gan ymbilio ar ymyrraeth y sant dros berthnasau neu ffrindiau sâl. Dosbarthwyd yr offrymau a wneir ar yr achlysuron hyn yn flynyddol ymhlith y tlodion lleol.
Mae sylfeini'r capel canoloesol, sy'n mesur tua 3 x 3 metr, i'w gweld yn erbyn wyneb craig fertigol a oedd yn ffurfio un ochr i'r gaer. Mae dŵr y ffynnon yn mynd trwy hollt yn y graig i mewn i hollt o fewn y sgwâr.
Roedd offrymau'r pererinion yn dod yn flynyddol yn swm mawr, ac fe'u gosodwyd mewn cist o'r enw "Cyff Eilian" a gedwir yn Eglwys Sant Eilian at y diben hwnnw. Mae'n dyddio o 1667 ac mae i'w weld yn yr eglwys o hyd. Talodd cynnwys y gist hon am ailadeiladu'r eglwys a'r capel cyfagos ac am brynu dwy fferm. Mae'r eglwys tua 800 metr i'r de-ddwyrain o'r ffynnon.
Gyda diolch i Roy Ashworth, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cyfeirnod grid: SH466933
![]() |
![]() ![]() |