Capel Sant Gofan, near Bosherston

Capel Sant Gofan, ger Bosherston

Old photo of St Govan's ChapelMae'r capel hwn, ar safle cell hynafol, yn swatio mewn hollt yn y clogwyni. I’w gyrraedd, mae'n rhaid i chi i ddisgyn ar hyd rhes hir o risiau cerrig. Rhowch gynnig ar gyfri’r camau ar y ffordd i lawr, ac yna ar y ffordd yn ôl. Cred pobl leol nad yw’r niferoedd byth yr un fath yn y ddau gyfeiriad!

Adeiladwyd y capel yn y 13eg neu'r 14eg ganrif, neu o bosibl yn gynharach. Dim ond tua chwe metr o hyd yw’r adeilad. Yn yr oesoedd canol, daeth pererinion yma i ofyn am help â heintiau llygaid neu anhwylderau eraill. Mae ffynnon Sant Gofan y tu allan, ychydig yn is tuag at y lan.

Credir i St Govan gael ei eni yn Wexford, Iwerddon, ac iddo ddod i Sir Benfro yn gymharol hwyr yn ei fywyd. Sefydlodd cell yn y fan yma a byw yma tan ei farwolaeth yn 586AD. Dywedir ei fod wedi ei gladdu o dan allor y capel presennol.

Yn ôl y chwedl, gwelodd môr-ladron o Ynys Wair (Lundy) St Govan ar arfordir de Sir Benfro ac fe geision nhw ei ddal am pridwerth. Rhannodd y clogwyni i roi man cuddio iddo, yna cau o'i gwmpas tan i’r môr-ladron adael. Mae un fersiwn o'r chwedl yn dweud bod ar Sant Gofan cywilydd am ei lwfrdra, ac felly arhosodd yn yr hollt i’r môr-ladron i ddychwelyd, pryd y byddai'n ceisio eu troi i Gristnogaeth.

Mae'r hen lun yn dangos y capel yng nghanol yr ugeinfed ganrif.

Mae'r capel bellach o dan ofal Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.

Map

Gwefan Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button