Eglwys Sant Martin, Eglwysbach
Eglwys Sant Martin, Eglwysbach
Mae'r cofnod ysgrifenedig cynharaf o Eglwys Sant Martin yn dyddio o 1254, pan oedd yr eglwys yn perthyn i esgobaeth Llanelwy. Yn 1284 cafodd ei throsglwyddo i Abaty Maenan fel rhan o'r cytundeb ailsefydlu a ganiatodd y Brenin Edward I i adeiladu tref gaerog Conwy ar safle Abaty Aberconwy. Dychwelodd yr eglwys i'r esgobaeth yn 1540. Ailadeiladwyd yr eglwys bresennol tua 1782, ar ôl i’r adeilad blaenorol fynd yn adfeiliedig.
Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Sant Martin, milwr Rhufeinig yn y bedwaredd ganrif a drosodd i Gristnogaeth ar ôl iddo weld mewn breuddwyd Iesu Grist yn gwisgo hanner ei fantell. Roedd Martin wedi rhoi’r hanner arall i gardotyn. Daeth Martin yn Esgob Tours, Ffrainc. Yn yr Oesoedd Canol, arddangoswyd dilledyn – cappa (clogyn) honedig Martin – o amgylch Ewrop. Codwyd cytiau o’r enw capelli fel cartref dros dro i’r clogyn ym mhob lleoliad ar y daith – daw’r gair capel o hyn.
Gallwch weld darlun o Sant Martin yn ffenestr ddwyreiniol yr eglwys. Crewyd a darlun yn 1950, trwy danysgrifiad cyhoeddus, i ddiolch am waredigaeth ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Mae cofeb rhyfel y pentref bob ochr i fynedfa'r eglwys.
Ger yr allor y mae bwrdd a thabled farmor er cof am John Forbes o Bodnod (Bodnant, yn ddiweddarach), a fu farw yn 1821. Roedd wedi amlygu ei hun yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America, yn arbennig ym muddugoliaeth Prydain yn Germantown yn erbyn milwyr o dan arweiniad George Washington.
Ceir nifer o gofebau, yn yr eglwys a'r fynwent, i'r teulu Holland oedd yn byw yn Neuadd Pennant o'r 15fed i'r 19eg ganrif. Roedd y teulu yn honni eu bod yn ddisgynyddion o un o raglawiaid Owain Glyndŵr.
Mae arfbais y Brenin Siôr III yn addurno wal orllewinol yr eglwys. Cafodd Robert Roberts, peintiwr o Lanrwst, ei gomisiynu i beintio hon a gwrthrychau eraill yn 1810, ond yn amlwg roedd paentio wyneb llew yn anodd iddo, efallai oherwydd nad oedd erioed wedi gweld llew!
Crewyd y ceiliog gwynt sydd ar y twr yn efail y pentref.
Mae’n debyg i asgwrn gên Thomas Paine, awdur Rights of Man, gael ei gladdu yn y fynwent. Roedd wedi marw yn yr Unol Daleithiau ym 1809. Cafodd ei esgyrn eu datgladdu 10 mlynedd yn ddiweddarach a’u cludo i Lerpwl. Ond ni adawodd yr awdurdodau i’r esgyrn ddod i mewn i Brydain, yn ôl llythyr (a ysgrifennwyd yn 1909) gan berthynas o un o swyddogion ecséis y porthladd. Cymerodd capten y llong yr esgyrn yn ôl ar ei long, ond rhoddodd yr asgwrn gên i swyddog ecséis fel “crair". Yn ddiweddarach, priododd gweddw’r swyddog Richard Beverley, a ddaeth yn athro Ysgol Eglwysbach. Roedd ei ferch yn meddwl ei fod yn anfoesol i gael ran o gorff dynol yn y tŷ. Gollyngodd yr asgwrn i mewn i fedd newydd, ychydig cyn i lanc gael ei gladdu yno. Does neb yn gwybod pa fedd oedd hwnnw.