Ffynnon Sant Peris, Nant Peris, ger Llanberis
Ffynnon Sant Peris, Nant Peris, ger Llanberis
Dros y canrifoedd credid i’r ffynnon hon fod a rhinweddau iacháu. Fel yr eglwys gyfagos, mae wedi ei chysegru i Sant Peris. Ei henw cyffredin ydi Ffynnon y Sant.
Cedwid dau bysgodyn yn y ffynnon. Os deuant allan i’r dŵr agored credid i’r ymwelydd gael lwc dda. Byddai rhai yn gollwng abwyd i’w denu allan! Credid y ceid iachâd o rhai afiechydon o ymolchi yn y dŵr, yn enwedig o weld y pysgod o’u cuddfan. I afiechydon eraill rhaid oedd yfed y dŵr.
Roedd yr arian a daflwyd i’r ffynnon am lwc dda yn ddefnyddiol iawn i dalu cyflog clerc y plwyf. Roedd gan y ffynnon ei cheidwad. Nododd Thomas Pennant yn ei lyfr am yr ardal (Tours in Wales – tair cyfrol) fod y ceidwad ar y pryd yn y ddeunawfed ganrif yn dweud ffortiwn yr ymwelwyr, gyda chymorth y pysgod!
Dyddiwyd y wal gerrig o amgylch y ffynnon fel un o’r ail ganrif ar bymtheg ac roedd ar ddefnydd fel seddau i’r ymdrochwyr.
Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg doedd na fawr ddim ymwelwyr ond fe wnaed yn sicr fod ynddi bysgod. Tyfodd un i fod yn 43cm o hyd gan fyw dros ddeg mlynedd ar hugain. Ond yn ei henaint roedd yn ddall ac yn methu osgoi dwylo chwilfrydig plant. Cafodd ‘angladd anrhydeddus’ gerllaw.
Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL55 4UH Gweld Map Lleoliad