Cerflun o Syr William Nott, Caerfyrddin
Cerflun o Syr William Nott, Maes Nott, Caerfyrddin
Roedd yr Uwchfrigadydd Syr William Nott yn enwog yn y 1840au am ei orchestion milwrol yn y trefedigaethau. O ynnau a gipiwyd yng Ngogledd India a’u toddi y gwnaed y cerflun hwn ohono.
Ganwyd ef yn 1782. Roedd ei dad, Charles, yn rheoli y Ship and Castle Inn yng Nghastell-nedd cyn symud i Gaerfyrddin yn 1794 i reoli gwesty’r Ivy Bush Royal yn 1794. Ymunodd William â chorfflu o filwyr gwirfoddol bedair blynedd wedi hynny. Aeth i India yn gadlanc yn 1800 gan wasanaethu yn yr East India Company, ac ymddeol i Gaerfyrddin yn 1826, yn fregus ei iechyd.
Dychwelodd i India wedi iddo golli llawer o’i gyfoeth oherwydd i fanc fethdalu. Ymladdodd yn y Rhyfel Eingl-Affgan. Ar ôl i fyddin Prydain yn 1842 gael eu gyrru dan gywilydd ac wedi dioddef colledion trwm, o Kabul, llwyddodd y Cadfridog Nott i wrthsefyll cais gan yr Affganiaid i gipio Kandahar. Yn dilyn hyn arweiniodd “fyddin ddialgar” i Kabul cyn encilio i ddiogelwch India. Yn 1843 gwadodd gyhuddiad fod dialedd ei ddynion wedi mynd dros ben llestri gan ysgrifennu: “Ni orymdeithiodd byddin lai anrheithgar na llai threisgar erioed trwy wlad na’r fyddin a arweiniais i yn Affganistan.”
Ac yntau’n sâl dychwelodd i Gaerfyrddin yn 1844. Bu farw ar ddydd Calan 1845 yn ei gartref ar y Clos Mawr gan adael ei ail wraig a phedwar plentyn o’i briodas gyntaf. Cafodd ei gladdu yn eglwys San Pedr. Yn ôl y sôn cafodd yr orymdaith angladdol fwyaf erioed i’w gweld yng Nghymru.
Cyfrannodd yr East India Company £200 at gost codi cofeb iddo yng Nghaerfyrddin. Derbyniwyd cyfraniad gan y Frenhines Fictoria. Lluniwyd y cerflun, gwaith Edward Davies, brodor o Gaerfyrddin, o rai o’r 56 o ynnau a gipiwyd gan filwyr Prydain yn 1843 yn ystod brwydr Maharajpur, talaith Madya Pradesh heddiw.
Yn 1845 rhoddwyd enw General William Nott ar barque newydd yn Abertawe. Ar flaen y llong roedd cerflun hir o‘r Cadfridog Nott yn ei lifrai. Dinistriwyd y llong gan dân yn 1848 wrth iddi gario copr o Ciwba i Abertawe.
Arferid cynnal marchnad Caerfyrddin ar Faes Nott. Safai croes ganoloesol yma tan 1783 pan osodwyd croes newydd yn ei lle. Dymchwelwyd y groes newydd hon er mwyn cael lle i’r cerflun.
Diolch i’r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad
Cod post: SA31 1PQ Map