Swan Square a Hen Bont Hwlffordd
Swan Square a Hen Bont Hwlffordd
Roedd Swan Square yn ardal fasnachol brysur yn hen dref Hwlffordd. Un o’r prif adeiladau yma oedd gwesty’r Swan, adeilad oedd yn dyddio o’r 16 ganrif ond a gafodd ei ddymchwel yn 1970.
Yn ôl yr hanes, mae’n debyg bod Swan Square yn ymdebygu i lyn ym mis Rhagfyr 1908 wedi i geuffos orlifo yn dilyn glaw trwm. Roedd y dref yn llawn ar y pryd a’r llif wedi digwydd ar ddiwrnod ffair a sêl anifeiliaid ychydig cyn y Nadolig. Llwyddwyd i ddargyfeirio’r dŵr i’r afon trwy osod estyll ar draws y sgwâr.
Roedd tramwyfa bwysig yn y fan hon yn croesi’r dref wrth yr hen bont ar draws yr afon. Saif y bont o hyd, ychydig i’r dwyrain, ond pont i gerddwyr yn unig yw hi bellach. Codwyd y bont yn 1726 wedi i bont gynharach gael ei difrodi gan lifogydd. 1378 yw dyddiad y cofnod ysgrifenedig cynharaf am bont yn Hwlffordd.
Cafodd yr engrafiad o’r bont ei gynnwys yn argraffiad 1804 o deithlen Gerallt Gymro gan Richard Colt Hoare. Daw o ddogfen wreiddiol yn Llyfrgell Eglwys Gadeiriol Tyddewi, ac fe’i hatgynhyrchwyd yma gyda chaniatâd Deon a Chabidwl Cadeirlan Tyddewi.
Credir mai yma yn Awst 1485 y croesodd Harri Tudur afon Cleddau Wen ar ei daith i Frwydr Bosworth, a’i goroni’n Harri VII yn dilyn ei fuddugoliaeth yno. Glaniodd ef a’i fyddin fechan ar 8 Awst ym Mill Bay ger Dale, ar ôl iddo fod yn alltud yn Ffrainc. Hwlffordd oedd y dref gyntaf iddyn nhw ei chyrraedd. Roedd y gefnogaeth a dderbyniwyd gan y trigolion yn hwb mawr i’w hyder. Roedd y bobl leol wedi herio cosbau llym wrth gefnogi’r gwrthryfelwyr.
Yn Hwlffordd mae’n debyg y derbyniodd Harri neges yn dweud y byddai gwŷr Penfro, lle y cafodd ei eni, yn cefnogi ei gais i ddymchwel y brenin Richard III. Ei ewythr, Jasper, a fagodd Harri yn Ffrainc oedd Iarll Penfro.
Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad
Cod post: SA61 2AN Map