Tafarn y Black Boy, Caernarfon

Tafarn y Black Boy, Stryd Pedwar a Chwech, Caernarfon

Roedd yr adeilad hwn yn ddwy dafarn gyfagos i’w gilydd sef  y King’s Arms a’r Fleur de Lys, nes i landlord brynu ei wrthwynebydd allan a chreu un dafarn fawr.

Dywed rhai ffynonellau fod y rhannau hynaf yn dyddio'n ôl i'r 1520au. Dywed y Comisiwn Brenhinol ar Henebion a Hynafol Cymru fod y dafarn wedi'i hadeiladu fesul cam, i gyd yn ystod yr 17eg ganrif mae'n debyg, a'i bod yn adeilad prin sydd wedi goroesi o'r cyfnod hwn yn nhref gaerog Caernarfon. Mae'r manylion tu mewn cynnar sydd wedi'u cadw'n dda hefyd yn nodedig o’r dafarn.

Pam “Y Bachgen Du”? Nid oes unrhyw un yn gwybod yn sicr. Dyma oedd enw un o’r tafarndai gwreiddiol yma cyn 1828, pan newidiwyd yr enw i King’s Arms. Un posibilrwydd yw iddo gael ei enwi ar ôl llanc croen tywyll a gyrhaeddodd Caernarfon ar long, mewn oes pan na fyddai llawer o Gymry, ar wahan i forwyr, wedi gweld llawer o bobl o dras dramor. Awgrym arall yw bod y dafarn wedi'i henwi ar ôl bwi du a oedd yn nodi'r llwybr ar gyfer llongau sy'n dod i mewn i harbwr Caernarfon. Nododd yr hanesydd WH Jones ym 1881 fod Northgate Street yn dwyn yr enw Black Boy Street.

Yn 1916 hysbyswyd Mrs Rowe o’r King’s Arms fod ei mab Alfred, taniwr ("stoker") ar HMS Arabis, mewn gwersyll carcharorion rhyfel yn yr Almaen. Roedd ei gŵr hefyd yn gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol. Yn gynharach yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ym mis Hydref 1914 roedd hi'n un o lawer o ferched yr ardal a roddodd 120 o flancedi i’r milwyr.

Y stryd hon oedd y lle gallai morwyr ddod o hyd i'r ardal golau coch. Y llysenw oedd Stryd Pedwar a Chwech, y dywed rhai sy'n cyfeirio at bris (4s 6d) ystafell gyda photel o gin a chydymaith benywaidd.

Bu llawer o straeon am ysbrydion yn y Bachgen Du. Gelwir un o’r ysbrydion y ‘Crogwr’, gan y dywedir ei fod yn amlygu ei hun gyda theimlad o ddwylo’n cael eu gosod o amgylch y gwddf. Dywedir mai ysbryd arall yw lleian.

Diolch i Rhiannon James am y cyfieithiad

Cod post: LL55 1RW    Map

Gwefan Tafarn y Black Boy