Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre

button-theme-textile button-theme-women

Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre

Mae tecstiliau gwlân yn dal i gael eu cynhyrchu ym Melin Cambrian; dyma gartref Amgueddfa Wlân Cymru er 1976. Roedd llawer o felinau gwlân yn Dre-fach Felindre yn Nyffryn Teifi. Y pentref hwn oedd canolfan y diwydiant gwlân yng Nghymru a dyma’r felin wlân fwyaf o ran maint yn y dyffryn. 

Roedd 325 o felinau gwlân yn siroedd Aberteifi, Caerfyrddin a Phenfro erbyn 1895. ‘Huddersfield Cymru’ oedd un disgrifiad o Dre-fach Felindre gan fod y rhan fwyaf o’r gymuned yn ymwneud â rhyw wedd neu’i gilydd o’r diwydiant. Roedd hanner cant a dau o felinau wrthi’n cynhyrchu erbyn 1900.

Codwyd adeiladau’r felin sydd i’w gweld yn yr amgueddfa yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif ar safle sied wehyddu. Y tu ôl i’r amgueddfa mae Doldywyll ac yma mae’r sied sychu olaf yng Nghymru yn dal i sefyll. 

Y diwydiant gwlân oedd y diwydiant pwysicaf yng Nghymru am ganrifoedd. Roedd digonedd o wlân ar gael gan fod pori defaid yn haws na thyfu cnydau ar dir mynydd. Grym llifeiriant afonydd a nentydd oedd yn gyrru’r melinau cynnar ac yn hwyluso golchi’r brethyn. 

Cyrhaeddodd y rheilffordd at Castellnewydd Emlyn yn 1895, gan sicrhau bod cynnyrch y melinau o fewn cyrraedd haws i gymoedd diwydiannol De Cymru. 

Roedd llawer o wragedd a merched yn gweithio yn y melinau a oedd yn cynhyrchu crysau, siolau, blancedi a charthenni. Aeth y llywodraeth â pherchen Melinau Cambrian, David Lewis, i’r llys yn 1908 am iddo dynnu grot (sef pedair ceiniog) yr un o gyflog wyth o ferched. Roedden nhw wedi gadael y safle am 1.00 pm ar ddydd Sadwrn, yn unol ag amodau Deddf y Ffatrïoedd, ond wedi gwrthod mynd â siolau a chynnyrch arall adref er mwyn cwblhau’r gwaith arnyn nhw. Aeth yn streic. Ar ran y perchen, cyfaddefodd ei gyfreithiwr y trosedd, ond costau yn unig a fynnwyd gan yr ynadon. Ni roddwyd dirwy. 

Rhoddodd y rhyfeloedd byd hwb i’r melinau yng Nghymru gan fod galw mawr am wisgoedd milwrol a blancedi ar gyfer milwyr a llongwyr. A niferoedd cynyddol o wŷr yn ymuno â’r lluoedd arfog, caniataodd y llywodraeth yn Awst 1916 i ferched lenwi swyddi a oedd gynt wedi’u neilltuo ar gyfer dynion ym melinau gwlân Cymru, petai dynion heb fod ar gael ar gyfer y gwaith. Derbyniai’r merched yr un gyflog â’r gwŷr, ond merched fyddai’n ildio eu swyddi gyntaf petai prinder gwaith. 

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd cwympodd pris gwlân yn gyflym. Cipiwyd y farchnad gan wisgoedd milwrol rhad, tila a bu’n ddiwedd y daith i lawer o’r melinau. Bu llewyrch bychan yn ystod chwedegau’r ganrif ddiwethaf pan oedd y melinau’n cynhyrchu tapestri ar gyfer y byd ffasiwn a’r fasnach ymwelwyr. 

Cau yn llwyr fu hanes Melinau Cambrian yn 1982. Sefydlwyd Melin Teifi gan ddau o’r cyn-weithwyr, Raymond a Diane Jones, er mwyn cynhyrchu brethyn a dillad. Symudwyd yn ôl i’r felin yn 1984 yng nghwmni Amgueddfa Genedlaethol Cymru. 

Yn sgil datblygiadau a ddigwyddodd rhwng 2002 a 2004, mae Amgueddfa Wlân Cymru, yn cyflwyno hanes y diwydiant gwlân yng Nghymru drwy arddangos prosesau ‘r felin ar beiriannau gwehyddu hanesyddol. Mae’r oriel wehyddu yn dangos y casgliad blancedi cenedlaethol sy’n gynnyrch melinau o bob rhan o Gymru. Ceir rhodfa lle y gall ymwelwyr wylio gwehyddion Melin Teifi wrth eu gwaith.

Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: SA44 5UP    Map

Gwefan Amgueddfa Wlân Cymru

Gwefan Melin Teifi