Ystad Glynhir, Llandybïe

button-theme-womenYstad Glynhir, Llandybïe

ammanford_glynhir_dovecote

Datblygwyd yr ystad hon gan deulu Du Buisson yn y ddeunawfed ganrif. Yn ôl yr hanes roedd eu cysylltiadau Ffrengig wedi eu galluogi nhw, yn anad neb arall ym Mhrydain ar y pryd, i ymelwa yn Llundain ar wybodaeth am drechu Napoleon yn Waterloo yn 1815.

Heddiw mae Glynhir yn cael ei hystyried yn enghraifft deg o ystad sydd wedi goroesi o’r ddeunawfed ganrif, pan gafodd ei ddatblygu’n uned hunangynhaliol. Mae Plas Glynhir yn ganolog ac yn cynnwys ffermdy sy’n perthyn i’r ail ganrif ar bymtheg. Yn glwstwr o gwmpas mae adeiladau a gai ei defnyddio’n wreiddiol i ddibenion ffermio, macsu ynghyd â gweithgareddau eraill. Cadwai’r teulu golomennod yn y colomendy wythoglog (a welir ar y dde).

Mae ‘tŷ iâ’ Glynhir yn anarferol o fawr a hwnnw’n ddwfn yn y ddaear er mwyn atal yr iâ a fyddai’n cael ei roi yno bob gaeaf rhag toddi’n rhy sydyn. Byddai’r cig a’r cynnyrch a fyddai’n cael ei gadw yno ar dymheredd isel. Roedd hyn ymhell cyn dyfeisio oergelloedd trydan.

Mae rhai o adeiladau’r ystad wedi eu troi’n llety ar gyfer ymwelwyr – dilyner y ddolen isod am fanylion.

Datblygwyd yr ystad gan deulu Du Buisson wedi iddynt ymsefydlu yma yn 1770. Roedd eu cyndeidiau wedi ffoi i Lundain o Ffrainc yn ystod y ganrif cyn hynny i ddianc erlid Protestaniaid.

Yn ystod y brwydro yn erbyn Napoleon, cododd amheuon bod ffatri gyllyll yr ystâd yn smyglo arfau i Ffrainc. Un o’r rheini oedd yn byw yn Glynhir yr adeg honno oedd Caroline Du Buisson, merch i farsiandwr yn Ninas Llundain. Roedd hi wedi priodi aelod o’r teulu.

Yn ôl yr hanes roedd un neu ragor o golomennod dychwel wedi eu cludo i Ffrainc gan berthnasau ychydig cyn Brwydr Waterloo. Yn fuan ar ôl y frwydr cyrhaeddodd neges i golomendy Glynhir fod Napoleon wedi ei drechu. Y sôn yw i Caroline farchogaeth i Lundain nerth carnau ei cheffyl i brynu stociau a gynyddodd yn gyflym o ran eu gwerth wedi i’r newydd gyrraedd Llundain yn ddiweddarach.

Yn ei blynyddoedd diweddaf cyfrannai Caroline yn hael i achosion dyngarol. Cefnogodd Ysgol y Mud a’r Byddar yn Llandaf, Caerdydd a darparu dillad cynnes i dlodion lleol yn y gaeaf. Talodd gyfran health o gost adnewyddu eglwys y plwyf, Llandybïe, yn y 1850au a chyfrannu’n hael at adnewyddu eglwys Llandyfân yn y blynyddoedd cyn ei marwolaeth yn 81 oed yn Glynhir ym mis Mai 1869.

Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: SA18 2TD

Gwefan Ystad Glynhir