Eglwys Sant Tybïe, Llandybïe
Mae ffin wreiddiol y fynwent ar ffurf cylch sy’n awgrymu fod y safle wedi ei defnyddio ar gyfer addoliad Cristnogol cyn codi’r eglwys bresennol. Y traddodiad yw bod St Tybïe a St Lluan, dau o ferched Brychan Brycheiniog, yma ar berwyl crefyddol yn y bumed ganrif cyn iddyn nhw gael eu lladd gan Wyddyl ysbeilgar. Ystyr Llandybïe yw ‘eglwys (St) Tybïe’.
Rhoddodd y brenin Edward I blwyf Llandybïe dan awdurdod Esgob Tyddewi yn 1284. Mae’n bosibl bod corff a changell yr eglwys naill ai’n perthyn i’r cyfnod hwnnw, neu i’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Adeiladwyd y tŵr yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Mae iddo ben castellog sy’n amddiffynfa rhag gelynion.
Caroline Du Buisson oedd yn gyfrifol am dalu cyfran helaethaf cost adnewyddu’r eglwys, ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ôl yr hanes roedd Caroline wedi gwneud ffortiwn yn Llundain trwy fanteisio ar wybodaeth a oedd gan y teulu hwn, yn anad neb arall ym Mhrydain ar y pryd, am drechu Napoleon yn Waterloo. Mae modd darllen rhagor am Caroline ar ein tudalen ar Ystad Glynhir.
Caroline a gomisiynodd George Gilbert Scott (a wnaed yn farchog yn ddiweddarach), un o bensiri blaenaf Prydain, ar gyfer yr adnewyddu ynghyd â’r adeiladydd John Harries o New Inn, Llandeilo. Adnewyddwyd seddi a mân daclau, lloriau a ffenestri. Mae cofebau i deulu Du Buisson y tu mewn i’r eglwys. (Nodir eu lleoliad yn arweinlyfr yr eglwys).
Mae cofeb arall yn darlunio Syr Henry Vaughan o Ystad Derwydd a fu farw ar 26 Rhagfyr 1676 yn sgil damwain farchogaeth. Mae’r helmed a gweddill yr offer milwrol yn cynrychioli ei deyrngarwch i blaid y brenin yn y Rhyfel Cartref. Y canlyniad oedd ei garcharu yng nghastell Dinbych-y-pysgod. Daliwyd ei dad, Henry arall, ym Mrwydr Naseby a threuliodd yntau flynyddoedd yn y carchar. Daeth Syr Henry, yr ieuaf, yn Aelod Seneddol yn dilyn adsefydlu’r frenhiniaeth. Mae ei gofarfbais (arfbais ar ffurf diamwnt) yn cael ei arddangos yn yr eglwys. Dyma o bosib y cofarfbais hynaf sydd i’w weld mewn eglwys yn ne Cymru.
Ar un o’r tair cloch yn y tŵr ae’r dyddiad 1681. Adeiladwyd organ yr eglwys yn Norwich gan Norman & Beard yn 1914 ond cafodd y daith i Landybïe gyda’r trên ei rwystro gan fod milwyr a deunydd milwrol yn cael blaenoriaeth. Erbyn y Nadolig 1914, sut bynnag, roedd popeth yn ei le a’r organ yn atebol i’r gwaith.
Mae amryw gofebau yn yr eglwys i bobl leol a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac un ohonyn nhw yw’r cloc yn y tŵr. Gwnaed y cloc a’i osod yn ei le gan J. B. Joyce o Whitchurch. Coffeir y rheini a gollwyd yn yr Ail Ryfel ar lechen y tu mewn i’r eglwys.
Gyda diolch i Brian Hopkins, ac i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad
Cod post: SA18 2TL Map