Y Palladium, Llandudno
Y Palladium, Llandudno
dudalen hon gan:
Gwely a Brecwast
wedi ei ddodrefnu’n
hyfryd, yng
nghanol Llandudno
Gwesty Astonwood,
16 Stryd y Capel,
Llandudno
LL30 2SY
01492 875458
Adeiladwyd Theatr y Palladium yn 1920. Cymerodd le neuadd farchnad gyntaf y dref a adeiladwyd gan Gwmni Marchnad Llandudno yn 1864.
Pwrpas cyntaf y Palladium oedd arddangos kinematograph (enw cynnar am ffilm). Roedd hefyd yn theatr, neuadd gerdd, tŷ opera, syrcas ac yn safle adloniannau eraill.
Cymerwyd y llun cynnar yma (chwith) o’r Palladium yn 1920au gan ddangos y cromennau dros y fynedfa’n glir. Dyluniwyd yr adeilad gan Arthur Hewitt, ac ef a ddyluniodd Siop Adrannol Clare a’r Gwesty Washington (sydd hefyd a chromen). Roedd yn gynghorydd yn Llandudno ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd ef oedd Prif Swyddog y Gwarchodlu Cartref.
Roedd yma 1,500 sedd yn y stondin a dau falconi. Roedd cerddorfa’r theatr yn cynnig amrywiaeth o gerddoriaeth o gomedi cerddorol i fale. Un o’r sêr fu yma oedd Gracie Fields (1898-1979), merch o Rochdale. Roedd yn gantores enwog ac actores a wnaeth symud yn llwyddiannus o’r neuaddau cerdd i’r sinema a’r teledu.
Prif ddefnydd y Palladium ar ôl yr Ail Ryfel Byd oedd fel sinema. Yn 1972 fe’i rhannwyd i neuadd bingo yn y stondin a sinema 600-sedd uwch ben. Ar y chwith ceir llun o’r seddau cylch adeg cyfnod y sinema.
Yn 2001 newidiwyd yr adeilad i’r dafarn eang gan Wetherspoons sydd wedi cadw llawer o nodweddion yr adeilad gwreiddiol.
Gyda diolch i John Lawson-Reay, o Gymdeithas Hanes Llandudno a Bae Colwyn, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL30 2DD Gweld Map Lleoliad
Gwefan y Palladium (JD Wetherspoon)