Tywysog Cymru, Y Stryd Fawr, Criccieth
Mae'n debyg fod y dafarn hon yn dyddio o 1842, yn fuan ar ôl i Edward (y Brenin Edward VII yn y dyfodol) gael ei greu yn Dywysog Cymru ym mis Rhagfyr 1841. Ymgorfforwyd pren o long ddrylliedig yn ddiweddarach, a gellir ei weld o hyd.
Gydag undeb Lloegr ac Iwerddon yn 1802, roedd angen gwell cyfathrebu rhwng Llundain a Dulyn. William Madocks oedd y sbardun y tu ôl i'r ffordd dyrpeg newydd i Borthdinllaen, yr oedd yn gobeithio y byddai'n dod yn borthladd i'r Irish Mail. Adeiladwyd y ffordd trwy Gricieth tua 1807.
Enwyd y pum tŷ cyntaf a godwyd ar hyd y ffordd yng Nghricieth yn Rhes yr Undeb (gallwch eu gweld gyferbyn ag Eglwys Sant Deiniol). Dros y 40 mlynedd nesaf, estynnodd Rhes yr Undeb tua'r gorllewin nes iddi ymuno â Corporation Terrace. Adeiladwyd tafarn Tywysog Cymru ar y gornel rhwng y ddwy res o adeiladau. Y tafarnwr cyntaf oedd David Cadwalader, a fu farw yn 1858. Roedd ei weddw Ann yn rhedeg y dafarn tan tua 1880.
Mae'r geiriau "Certified for five seamen " wedi'u cerfio ar un o drawstiau y dafarn, y credir iddo gael ei achub o'r Owen Morris, a ddrylliwyd yn Black Rock gerllaw ym mis Rhagfyr 1907. Mae darn arall o bren o'r llong yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Forwrol Porthmadog.
Yr Owen Morris oedd un o'r swp cyntaf o'r enwog "Western Ocean Yachts", cynllun gosgeiddig gan adeiladwyr llongau Porthmadog yn eu hymdrech olaf i gystadlu ag agerlongau a rheilffyrdd. Lansiwyd yr Owen Morris ym 1891 ac yn fuan sefydlodd ei hun mor gyflym a dibynadwy.
Roedd wedi teithio am saith mis - o Borthmadog i'r Almaen, Sbaen, Newfoundland a'r Eidal - pan gafodd ei dryllio ar ei ffordd gartref, bron o fewn golwg Porthmadog. Gallwch ddarllen mwy am dranc y llong ar y dudalen hon.
Gyda diolch i Robert Cadwalader, o Amgueddfa Forwrol Porthmadog, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL52 0HB Gweld Map Lleoliad