Gwesty Spilman, Caerfyrddin

button-theme-womenGwesty Spilman, Caerfyrddin

Mae plac ar yr adeilad hwn, sef Gwesty Spilman, eisoes, i nodi mai yma y magwyd Elizabeth Phillips Hughes, arloeswraig ym maes addysg. Mae’r llun, gyda diolch i Hughes Hall, Caergrawnt, yn ei dangos yn y 1890au.

Yn ôl pob tebyg swyddfa bost oedd yr adeilad Sioraidd yn wreiddiol. Bu’n gysylltiedig â llaw-feddygon a meddygon am dros ganrif. 

Portrait of Elizabeth Phillips HughesGaned Elizabeth yn 1851 yn Stryd y Brenin gerllaw; symudodd yma yn blentyn bach. Yn ei harddegau cynnar aeth i Ysgol Hope House yn Taunton ar gyfer ei haddysg ffurfiol gychwynnol. Yna mynychodd Goleg Merched Cheltenham a Choleg Newnham Caergrawnt lle yr enillodd yr unig radd dosbarth cyntaf yn y Gwyddorau Moesol yn 1884. Ni ddyfarnwyd gradd iddi, fodd bynnag, gan nad oedd Caergrawnt yn cynnig graddau i fenywod tan 1948. Erbyn 1885 hi oedd prifathro cyntaf Coleg Hyfforddi Caergrawnt i Ferched (CTC). 

Cafodd ei syniadau parthed addysg prifysgol i ferched Cymru amlygrwydd yn 1884 mewn traethawd a anfonwyd ganddi i’r Eisteddfod Genedlaethol. Ddwy flynedd yn ddiweddarach roedd Elizabeth yn un o aelodau cyntaf y Gymdeithas er Hyrwyddo Addysg Merched yng Nghymru (APEGW). Sefydlwyd y Gymdeithas yn sgil y diffyg sôn am addysg uwchradd effeithiol ar gyfer merched pan gafodd Mesur Addysg Canolraddol Cymru ei ddarlleniad cyntaf yn y Senedd yn 1885. Ac anerchodd Elizabeth bwyllgor Tŷ’r Cyffredin ar addysg yng Nghymru yn 1887. 

Pan ddaeth APEGW i ben yn 1902, nododd y Cambrian News “Mae merched Cymru yn awr yn meddu ar gyfundrefn addysgol sy’n ymestyn o’r Ysgol Elfennol i’r Brifysgol” a bod “newid rhyfeddol“ wedi digwydd o ganlyniad i sefydlu APEGW. 

Am ddwy flynedd bu Elizabeth yn Athro Saesneg Gwadd yn Tokyo gan drefnu cysylltiadau rhwng colegau yn Siapan a CTC sy’n dal hyd heddiw. Ar y ffordd adref ymwelodd â’r Unol Daleithiau lle y bu’n annerch ar addysg, yn ymweld ag ysgolion ac yn astudio carchardai a systemau profiannaeth.

Wedi iddi ymgartrefu yn y Barri, cefnogodd sefydlu Coleg Hyfforddi Athrawon y dre ac Ysbyty’r Groes Goch yno ar gyfer milwyr wedi’u clwyfo (y cyntaf yng Nghymru). Elizabeth oedd y fenyw gyntaf yng Nghymru i’w anrhydeddu ag MBE. 

Daeth yn aelod o Lys Llywodraethwyr Prifysgol Cymru ac yn 1920 derbyniodd radd Doethur yn y Gyfraith yn gydnabyddiaeth o’i gwaith. Bu farw yn 1925 a’i chladdu ym mynwent y Barri.

Gyda diolch i Dr Mary Thorley, Archif Menywod Cymru, ac i’r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: SA31 1LQ    Map

Gellir lawrlwytho taflen Taith Gerdded Treftadaeth Menywod Caerfyrddin o wefan yr Archif

Gwefan Gwesty Spilman