Y Vaynol Arms, Nant Peris

Y Vaynol Arms, Nant Peris

nant_peris_vaynol_arms

Ffermdy Tŷ’n Llan oedd y dafarn yn wreiddiol, a dyna’r enw yn lleol hyd heddiw am y dani. Ystyr llan ydi ardal wedi ei chau i mewn ond gan fod cymaint o eglwysi wedi eu cau i mewn trosglwyddodd yr enw i gynrychioli’r eglwysi. Pren a gwiail oedd y waliau cyntaf ac yna daeth waliau cerrig dros amser. Mae eglwys Sant Peris y tu ôl i’r dafarn gyda’r hen fynwent o’i chwmpas. Dros y ffordd mae’r fynwent newydd.

Stad y Faenol oedd perchnogion y fferm. Yn y ddeunawfed ganrif daeth John Closs (1725-1799) yn denant. Daeth ei deulu o Grinton, yn ardal North Riding Swydd Efrog. Llwyddodd John i ddod yn rheolwr mwynfa gopr ger y pentref. Fe agorodd rhan o’r ffermdy fel tafarn tua 1780 fel roedd twristiaeth yn cychwyn agor yn yr ardal.

Dilynwyd John gan ei fab Robert (1766-1833) fel y tafarnwr. Yn Rhagfyr 1805 bu trallod pan gollodd Robert ei fab John, saith mlwydd oed. Bu’r mab gyda’i fam yn ymweld â’i nain ger Betws Garmon, yn y dyffryn nesaf i’r gorllewin. Gadawodd y fam, o’r enw Ellen neu Elizabeth, y bachgen gyda’i nain gan ddychwelyd adref ar ei phen ei hun. Ond fe geisiodd John gerdded adref ei hun drwy’r eira ac roedd ei nain yn meddwl iddo fynd efo’i fam. Cafwyd ei gorff wyneb i lawr dan lethr serth ger copa Moel Eilio.

Mae’r llun o ddiwedd 1950au yn dangos y dafarnwraig Gaynor Closs a’i nai Twm Closs (gradd o Rydychen a chymeriad a hanner). Fe barhaodd teulu Closs i redeg y dafarn hyd at werthu stad y Faenol yn 1960. Fe ymfudodd rhai o’r teulu i Unol Daleithau America yn 1845 gan gartrefu yn y Paith Cymreig (Welsh Prairie), Wisconsin.

Yn 1916 apeliodd Humphrey Closs o’r Vaynol Arms rhag mynd i’r fyddin. Disgrifiodd ei hun fel ffermwr a bugail. Cafodd eithriad dros dro tan ddiwedd y flwyddyn ac o apelio eilwaith cafodd estyniad tan ddiwedd Mawrth. Ond i’r rhyfel fu rhaid iddo fynd ac fe gafodd ei anafu. Daeth adref i wella yn Nhachwedd 1918.

Gyda diolch i John Ellis, disgynnydd o Robert Closs, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post: LL55 4UF    Gweld Map Lleoliad

Gwefan y Vaynol Arms