Cylchdeithiau yn Abertawe
Cylchdeithiau yn Abertawe
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn mynd drwy Abertawe ac o gwmpas arfordir Bro Gŵyr. Mae ein taith ar hyd Llwybr Arfordir Cymru yn cynnwys codau QR mewn gannoedd o leoliadau o ddiddordeb ar hyd y llwybr cyfan.
Gallwch hefyd ddefnyddio ein codau QR ar hyd Llwybr Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol 4 (rhwng Abergwaun a Phont Hafren), sy'n mynd drwy Abertawe.
Cylchdaith Wele Heol y Gwynt
Mae Wind Street, neu Heol y Gwynt, yn oroesydd rhyfeddol o’r hen Abertawe, gan iddi ddianc difrod sylweddol yn ystod y rhyfel er gwaethaf ei hagosrwydd at dargedau allweddol i’r Luftwaffe.
Defnyddiwch eich ffôn glyfar, neu dabled, a chodau QR HistoryPoints yn Heol y Gwynt i ddarganfod pytiau diddorol am orffennol lliwgar yr ardal. Fe ddewch ar draws cymeriadau megis y bocsiwr Americanaidd Rocky Marciano a morwr a fu farw o golera ar ôl cael ei dwyllo i gludo pererinion Arabaidd mewn llong nwyddau. Cewch ddarganfod hefyd rhai o'r amryw bethau a werthwyd yn y stryd, gan gynnwys gwallt addurniadol, cyfrwyau, "blood purifier" ac adar mewn cewyll – yn ogystal â chlociau a telesgopau a wnaed yn Heol y Gwynt.
Mae'r daith hefyd yn taflu goleuni ar enwau lleoedd megis Salubrious Passage. Beth am Wind Street ei hun? Dau o'r cyfeiriadau ysgrifenedig hynaf yw Wyne Street (1567) a Winstrett (1579), ac awgryma Richard Morgan o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru y gallai fod wedi cyfeirio at stryd lle y gwerthwyd gwin. Tarddiad posibl arall yw wynd, sy'n golygu stryd gul neu ale.
Cam-gyfieithiad yw Heol y Gwynt, ond mae’n dyddio o 1820 pryd y’i defnyddiwyd gan Seren Gomer.
Mae teitl ein cylchdaith, gyda diolch i’r Athro David Thorne, yn eich annog i weld a sylwi ar Heol y Gwynt, ond mae ‘wele’ hefyd yn ffurf lafar ar ‘chwedlau’.
Join the tour at a key location...
Pen uchaf Heol y Gwynt, get y castell
Salubrious Passage
Gwaelod Heol y Gwynt
Gallwch ymuno â'r daith yn unrhyw un o'r lleoliadau dan sylw drwy sganio’r codau QR yno. Wedi i chi darllen y wybodaeth am y lleoliad hwnnw, gwasgwch 'Nesaf' wrth waelod y dudalen i weld map a gwybodaeth am yr arhosfan nesaf. Yn y pen draw, bydd y daith yn eich dychwelyd i'ch man cychwyn.
Neu dewiswch un o'r mannau cychwyn yn y ddewislen ar y dde.
Map o’r daith