Glanfa Fictoraidd, Aberdyfi
Glanfa Fictoraidd, Aberdyfi
Mae cychod hamdden yn Aberdyfi yn defnyddio’r lanfa a adeiladwyd yn yr 1880au ar gyfer y fasnach nwyddau ffyniannus, yn enwedig cludo llechi o chwareli yn yr ardal. Mae'r hen lun (hawlfraint: Gwasanaeth Archifau Gwynedd) yn dangos y lanfa ym 1891.
Disodlodd y lanfa gyfleusterau elfennol ar gyfer derbyn ac anfon nwyddau ar y môr. Trwy ddyfodiad y rheilffordd yn y 1860au, daethpwyd â llechi i Aberdyfi mewn cyfeintiau llawer mwy. Roedd llinell gangen fer i lan y môr yn ymwahanu ger yr orsaf (i'r gorllewin o'r dref). Ym 1882 rhoddodd Cwmni Rheilffyrdd Cambrian rybudd ei fod yn bwriadu ymestyn y pier a gosod arglawdd neu fôrglawdd, glanfeydd a seidins.
Yn ardal y lanfa roedd warysau, cyfleusterau ar gyfer da byw a oedd yn cael eu cludo, ac archwiliadau tollau. Mewn un wythnos ym mis Mehefin 1907 cyrhaeddodd stemars a llongau hwylio gyda: cargo cyffredinol o Lerpwl; pren o Gaerdydd (ar gyfer cynnal a chadw'r bont reilffordd dros aber Mawddach yn Abermaw); pren o Gaernarfon; a sment o Groningen, yn yr Iseldiroedd. Anfonwyd llechen mewn dwy long, un ohonynt yn mynd i Gaerloyw, ac hefyd mwyn plwm i Lerpwl.
Mae cofnod harbwr ym 1904 yn nodi llongau yn mynd â llechi o Aberdyfi i Poole, Dorset, a Faversham, Caint.
Chwarelwyd peth o'r llechi ym Mryneglwys, i'r gogledd, a'i gludo ar Reilffordd Talyllyn (traciau cul) i Dywyn, lle cafodd ei drosglwyddo i wagenni ar draciau safonol ar gyfer y daith fer i Aberdyfi. Gwnaeth llechi o Aberllefenni siwrnai debyg, gan ddefnyddio Rheilffordd Corris (cul) i Fachynlleth, a wagenni safonol oddi yno i Aberdyfi.
Mae'n debyg bod y mwyn plwm a gludwyd o'r fan hon wedi dod mewn cychod o ochr arall y foryd.
Dirywiodd gweithgaredd nwyddau gyda lleihad chwarela a mwyngloddio yn y rhanbarth yn yr 20fed ganrif a chyda thwf lorïau. Cafodd y lanfa ei hailosod ar gyfer defnydd hamdden yn y 1970au.
Gyda diolch i Wasanaeth Archifau Gwynedd am y llun
Cod post: LL35 0RA Map
Gwefan Gwasanaeth Archifau Gwynedd
![]() |
![]() ![]() |