Lloches i ferched Caerfyrddin yn oes Victoria

button-theme-womenLloches i ferched oes Victoria, 17 Stryd Spilman, Caerfyrddin

Gellid honni mai’r adeilad hwn oedd y lloches cyntaf i ferched yng Nghaerfyrddin. Byddai un ystafell ynddo yn cael ei hagor bob wythnos at ddefnydd merched rheidus gan Margaret Morgan; hi a gynorthwyai’r mwyaf anghenus yn y dref mewn amryw ffyrdd. 

Ar y safle roedd busnes saer cerbydau ac olwynion ar un adeg, gŵr o’r enw Rufus Jones a oedd wedi symud yma o’r cei yn 1873. Adeiladwyd y tŷ c. 1880. Erbyn 1881 roedd yn gartref i wraig weddw, Margaret Morgan (a aned yn Llandeilo yn 1835) a’i mab naw oed. 

Cododd plwyf Sain Pedr yr arian angenrheidiol i’w chyflogi yn ‘Genhades’. Trigai yma heb dalu rent a derbyniai gyflog bychan. Yn iawn am hyn, ymwelai â rhannau tlotaf a gwaethaf y plwyf gan hysbysu’r clerigwyr o’r llu achosion o salwch a chyni na fyddai wedi dod i’w sylw oni bai am wybodaeth ganddi hi. 

Roedd bob amser yn barod iawn ei chymwynas. Byddai’n trin y cleifion ac yn gwneud eu gwelyau, yn paratoi prydau iddyn nhw yn ôl eu hangen, yn sicrhau glanweithdra ac yn eu cynorthwyo i ddilyn cyfarwyddiadau pwysig y meddygon.

Yma, yn ei chartref, trefnai bod ystafell ar gael unwaith yr wythnos i wragedd tlawd y dref eistedd yn ddiogel, mewn lle cynnes a chael llonydd i ddarllen, neu i dderbyn cymorth i wnïo dillad. Dechreuwyd clwb cynilo gan Margaret, yn ogystal, a gallai’r gwragedd tlotaf gynilo ychydig geiniogau ar gyfer adegau anodd. Roedd ei chyfraniad yn arbennig o werthfawr yn ystod gaeafau eithriadol o galed blynyddoedd cynnar y 1880au ac ar un adeg roedd yn ymweld â thros gant o deuluoedd yr wythnos. 

Yn ddiweddarach yn ei bywyd symudodd Margaret i Pershore yn sir Gaerwrangon, gan gadw tŷ i deulu a hanai o Gaerfyrddin. Bu farw yn 1908.

Gyda diolch i Dr Mary Thorley, Archif Menywod Cymru, ac i Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: SA31 1JY    Map

Gellir lawrlwytho taflen Taith Gerdded Treftadaeth Menywod Caerfyrddin o wefan yr Archif