Inclêns bwrdd chwarel Vivian, Llanberis

Inclêns bwrdd chwarel Vivian, Gilfach Ddu, Llanberis

Photo of table inclines at Vivian quarry, Llanberis
Hen lun o inclêns bwrdd chwarel Vivian
© Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Ar hyd y llechwedd ger yma mae cyfres o hen inclêns bwrdd a gludai llechi o chwarel Vivian gerllaw. Cafodd yr ail isaf ohonynt, yr inclein V2, ei adfer i gyflwr gweithio ym 1998 gan yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol, gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri.

Mae gan inclên V2, a adeiladwyd yn yr 1870au, ddwy wagen reilffordd fawr sy’n darparu arwyneb gwastad y gall wagenni chwarel bach eistedd arno. Roedd disgyniad wagenni chwarel llwythog ar un o'r wagenni mawr yn tynnu'r wagenni gwag i fyny ar y trac cyfagos. Roedd cebl yn cysylltu'r wagenni mawr trwy dŷ weindio ar y brig, lle roedd breciau yn rheoleiddio'r cyflymder.

Mae'r hen lun yn dangos inclêns cyfres V ar ochr y bryn. Ar y gwaelod mae wagenni chwarel wedi'u llwytho ar wagenni cludo ar Reilffordd Padarn.

Photo of traverser at V2 incline, LlanberisBu’r inclein yn segur o 1937 ymlaen. Weithiau mae'r amgueddfa'n dangos inclên V2 ar waith, gan ddefnyddio modur oherwydd nad oes cyflenwad o lechi mwyach ar gyfer gweithredu’r inclên gyda disgyrchiant.

Wrth droed V2 mae bwrdd tramwyo (‘traverser’), a ddangosir yn y llun isaf. Mae'r rheiliau ar y chwith yn cario wagen isel, sy'n ddigon mawr i un wagen chwarel ar y tro. Byddai wagen lechi wag yn cyrraedd ar y trac mynedfa/allanfa crwm ar y dde ac yn cael ei symud ar wagen y bwrdd tramwyo i un o'r traciau byr sy'n arwain at yr inclên bwrdd. Gwrthdrowyd y weithdrefn ar gyfer wagenni wedi'u llwytho wedi iddynt gyrraedd ar V2.

 

 

Byddai chwareli yn defnyddio inclêns bwrdd, a elwir hefyd yn inclêns tanc, ar gyfer rhai o'r disgyniadau mwyaf serth. Roedd sawl un yn chwarel fawr Dinorwig, yn uwch i fyny'r mynydd. Lle roedd y graddiant yn llai serth, adeiladwyd llethrau gyda thraciau mesur cul yr oedd wagenni’r chwarel yn rhedeg yn uniongyrchol arnynt, fel y gwelwch ar inclên A1 ychydig i'r de-ddwyrain.

Cod post: LL55 4TY    Map

Gwefan yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol