Beddau rhyfel ym mynwent Talgarth
Beddau rhyfel ym mynwent Talgarth
Ym mynwent Eglwys y Santes Wenddolen ceir saith o feddau rhyfel y Gymanwlad, pump ohonynt yn ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf. Gweler isod am fanylion y bobl sydd wedi’u claddu yn y beddau hyn.
Yn anarferol, mae brawd a chwaer wedi’u claddu yma mewn dau o’r beddau rhyfel. Ymunodd Daphne Elizabeth Powell â Chorfflu Cynorthwyol y Fyddin ym mis Tachwedd 1917 gan weithio mewn ysbyty milwrol yn Swanage, Dorset. Bu farw yng nghartref ei rhieni, yr Hen Ficerdy, Talgarth, ym mis Ebrill 1919 yn dilyn cystudd byr. Roedd yn 21 oed.
Ni allodd ei brawd Charles fod yn bresennol yn ei hangladd oherwydd roedd yn yr Almaen. Roedd yn dal i wasanaethu gyda Chyffinwyr De Cymru, er bod y rhyfel wedi gorffen. Bu farw yn Ysbyty Beechwood House yng Nghasnewydd, yntau hefyd yn 21 oed, ym mis Chwefror 1921 ac mae wedi’i gladdu ger ei chwaer.
Bu farw Percy Davies, sydd hefyd wedi’i gladdu yma, ym mis Mai 1921, ar ôl gwasanaethu yng Nghorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin. Ef oedd ail fab ysgolfeistr Talgarth, hirfaith ei wasanaeth, WT Davies a gweithiodd fel llawfeddyg ysbyty yn Ysbyty Charing Cross, Llundain, cyn ymuno â’r fyddin.
Yn un o feddau’r Ail Ryfel Byd fe orwedd George Henry Tanswell. Roedd yn aelod o’r Gwarchodlu Cartref, llu gwirfoddol rhan-amser a hyfforddwyd i amddiffyn Prydain ac ymateb i argyfyngau yn ystod y rhyfel.
Mae’r fynwent bellach yng ngofal Cyngor Tref Talgarth.
Gyda diolch i Gymdeithas Hanesyddol Talgarth a’r Cylch
Cod post: LD3 0BH Map
War grave occupants
First World War
- Davies, Percy F, Staff Serjeant 7246818. Died 04/05/1921 aged 31. Royal Army Medical Corps. Husband of Edyth Davies, of High St., Talgarth. Grave location: south-east corner.
- Inseal, Alfred, Private 19931. Died 02/10/1917 aged 32. South Wales Borderers. Son of Mr. and Mrs. Alfred Inseal; husband of Sarah Inseal, of Holly Bush Cottage, Llangorse, Brecon. Grave location: south of church.
- Powell, Charles Baden, Private 68023. Died 18/02/1921 aged 21. South Wales Borderers. Son of Charles and Eleanor Powell, of Old Vicarage, Talgarth. Brother of Daphne Elizabeth Powell, below. Grave location: south-east corner.
- Powell, Daphne Elizabeth, Worker 10897. Died 11/04/1919 aged 21. Queen Mary's Army Auxiliary Corps. Daughter of Charles and Eleanor Powell, of Old Vicarage, Talgarth. Brother of Charles Baden Powell, above. Grave location: in south-east corner.
- Power, John Patrick, Sapper WR/100537. Died 04/01/1921 aged 28. Royal Engineers. Son of John and Bridget Power. Grave location: south-west corner.
Second World War
- Makovsky, Bohumil, Vojin (Private). Died 27/01/1943. Czechoslovakian Army. Grave location: central section.
- Tanswell, George Henry, Sergeant. Died 18/01/1942 aged 37. Home Guard, 2nd Breckonshire (Builth Wells) Bn. Son of George Henry and Kathleen Bentley Tanswell, of Talgarth; husband of Rhoda Elizabeth Tanswell, of Talgarth. Grave location: south-west of church.