Pen Pyrod, Gŵyr

Gower-AONB-FullMae'n rhaid i unrhyw un sy'n cerdded i Ben Pyrod ac yn ôl wirio amserau'r llawn i osgoi cael eu gadael ar yr ynys rannol, heb allu gadael, ond filoedd o flynyddoedd yn ôl, roedd y llwybr bob amser yn sych.

Wrth i'r rhewlifoedd gilio ar ddiwedd yr Oes Iâ diwethaf, roedd Gŵyr tua 100 metr yn uwch na'r môr nag y mae yn awr. Roedd Pen Pyrod bryd hynny'n fryn ar wastadedd llydan lle'r oedd anifeiliaid fel mamothiaid gwlanog, bleiddiaid, udfilod a rhinoserosod yn crwydro.

gower_worms_head_moulds
Stone moulds found at Worm's Head
© Amgueddfa Cymru – Museum Wales

Adeiladodd bodau dynol fryngaer ar y llethr deheuol, fwy na thebyg yn ystod yr Oes Haearn (pan oedd Pen Pyrod eisoes wedi dod yn ynys rannol). Mae waliau amddiffynnol amrywiol i'w gweld o hyd. Ni adeiladwyd unrhyw waliau ar yr ochr ogleddol gan fod y clogwyni serth yn darparu amddiffyniad naturiol.

Mae’r llun uchaf yn dangos mowld carreg dau ddarn ar gyfer gwneud eitemau metel a ddarganfuwyd yn Worm’s Head. Credir ei fod naill ai o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol neu ganoloesol.

Mae’r llun isaf, gan Peter Clark, yn dangos Worm’s Head o’r môr.

Photo of Worm's Head viewed from the seaMae Pen Pyrod yn cynnwys calchfaen carbonifferaidd, a cheir sawl ogof yn y rhannau mwyaf gorllewinol. Mae mordwll yng nghefn un ogof, lle mae gwasgedd aer a achosir gan donnau'n ymchwyddo i mewn i'r ogof wedi erydu tramwyfa i'r tir uwchben. Os ydych yn eistedd wrth y twll, byddwch yn clywed y tonnau islaw ac yn teimlo symudiad yr aer - ac efallai gallwch ddychmygu hyn fel ffroen y sarff yr enwir yr ynys rannol ar ei ôl!

Erydwyd y tu mewn i ogof gynharach yn gyfan gwbl yn y pendraw, hyd at ochr arall yr ynys rannol. Mae'r rhan fwyaf o nenfwd yr ogof wedi syrthio ond mae'r rhan sy'n goroesi yn ffurfio pont naturiol rhwng y tir ar bob ochr.

Mae Pen Pyrod wedi cyfareddu ymwelwyr ers cenedlaethau. Yn yr oes Fictoraidd, daeth rhes o dai yn Rhosili yn letyau glan môr i ymwelwyr, ac yn ddiweddarach, yn westy Worm's Head.

Map

Gwefan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button