Blocws yn Nhrearddur
Mae i’r amddiffynfa hon, a ddefnyddiwyd yn ystod y rhyfel, siâp anarferol, tebyg i gastell. Gwnaeth Partneriaeth Tirwedd Ynys Cybi waith cadwraeth arni yn 2023
Erbyn Mai 1940, roedd llawer o orllewin Ewrop dan feddiannaeth yr Almaen a'r ofn oedd mai Prydain fyddai’r nesaf i gael ei goresgyn. Rhoddwyd y Cadfridog Edmund Ironside yng ngofal amddiffynfeydd y wlad a gorchmynnodd adeiladu miloedd o ‘flocysau’ caerog, gan gynnwys yr enghraifft amlwg hon yn Nhrearddur.
Gan na wyddys o ba gyfeiriad y deuai ymosodiad y gelyn, rhaid oedd i'r awdurdodau baratoi ar gyfer pob posibilrwydd, gan gynnwys y posibilrwydd y gallai'r Almaenwyr ymosod ar Brydain o’r môr, a hynny o'r gorllewin. Roedd y blocws hwn yn un o tua dwsin a adeiladwyd o amgylch Trearddur. Roedd blocysau yn y rhan hon o Ynys Môn yn anarferol gan eu bod yn edrych fel cestyll bach, efallai er mwyn cuddio eu hoedran a'u pwrpas. Mae enghraifft arall i’w gweld yng Nghaergybi.
Yn y blocws hwn mae dau fan caëedig rhyng-gysylltiedig. Defnyddiwyd yr un agored ar gyfer gosod gwn gwrth-awyrennau, tra bod yr un dan orchudd yn rhoi rhywfaint o amddiffyniad i'r milwyr rhag yr elfennau. Yn y waliau ochr mae saith twll saethu o le y byddai milwyr yn tanio eu harfau tuag at y goresgynwyr.
Diolch i Adrian Hughes, o Amgueddfa 'Home Front', Llandudno
Cod post: LL65 2US Map