Cofeb rhyfel Ysbyty Ifan

Cofeb rhyfel Ysbyty Ifan

Mae’r cofgolofn tu allan i Neuadd Goffa Ysbyty Ifan yn cofio’r dynion lleol fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Gweler isod i ddarganfod pwy oeddynt.

Mae’r arysgrif ar y gofeb yn ddarllen: Rhyfel Mawr 1914-18. Teyrnged Yspytty i’w meibion gollwyd. ‘Yn anghof ni chant fod’. Roedd ‘Yspytty Ifan’ yn sillafiad gyffredin o’r enw ar y pryd.

Collodd y gymuned wledig fechan hon dau ddyn ar yr un diwrnod yn 1916 yng Nghoed Mametz, rhan o Frwydr Gynta’r Somme.

Ennillodd un dyn a enwir ar y gofgolofn, John 'Cynfal' Roberts, y Fedal Filwrol ar ei ddewrder ond fu farw ar ddiwrnod olaf y rhyfel, oedd hefyd yn ddiwrnod ar ôl ei benbwydd.

Adeiladwyd y neuadd tu ol i’r gofgolofn er cof am feirw’r rhyfel. Cafodd ei ail-adeiladu yn 1958. 

Mae’r wybodaeth isod ynglŷn â meirw Rhyfel Byd Cyntaf yr ardal yn grynodeb o ymchwil fanwl prosiect Conwy a’r Rhyfel Mawr. Dilyniwch yn ddolen isod am ragor o wybodaeth neu i brynnu copi o lyfr y prosiect Conwy Wledig a’r Rhyfel Mawr gan Eryl Prys Jones, cyhoeddwyd gan Fenter Iaith Conwy a Gwasg Carreg Gwalch.

Postcode: LL24 0NS    View Location Map

Gwefan Conwy Wledig a'r Rhyfel Mawr

Y Rhyfel Byd Cyntaf

Lle y gwelwch yr eicon hwn, cliciwch arno i weld ein tudalen er cof am y person: Extra page icon

  • Hugh Davies. 3 Glan y Porth, Ysbyty Ifan. Private 37011. RWF 16eg bataliwn. Cofeb Thiepval, Somme, Ffrainc. Bu farw Gorffennaf 10fed 1916 yn 24 mlwydd oed ym mrwydr Mametz Wood ond 14 diwrnod ar ol iddo gyrraedd Ffrainc. Bu farw ym mreichiau ei gyfaill agos, Ted Beattie. Mab David a Catherine (Kitty), 3 Glan y Porth, Ysbyty Ifan a brawd iau i Alice, Thomas, David ac Ann. Gweithiodd fel gwas ar fferm Plas Ucha, Ysbyty Ifan cyn y rhyfel.
  • David Williams. Tŷ’n Lôn, Ysbyty Ifan. Private 36849. RWF 14eg Fataliwn. Cofeb Thiepval, Somme, Ffrainc. Bu farw Gorffennaf 10fed 1916 yn 24 oed ym mrwydr Mametz Wood — yr un diwrnod a Hugh Davies, uchod. Mab i D. Williams, Tŷ Capel, Ysbyty Ifan, ond cafodd ei fagu ar aelwyd ei daid a’i nain Dafydd a Jane Williams, Ty’n Lôn. Bu’n gweithio ar fferm Maes Gwyn, Pentrefoelas, cyn ymuno â’r fyddin, a disgrifir ef fel “bachgen tawel, diymhongar ... cymeriad prydferth”.
  • Arthur Jones. Cerrigellgwm Isa, Ysbyty Ifan (Bryn Du, Cefn Brith gynt). Preifat, 39327. RWF 8fed Bataliwn. Claddwyd ym Mynwent North Gate, Baghdad, Iraq. Bu farw o heatstroke ar Gorffennaf 23ain 1917 (27 oed) yn Mesopotamia. Mab hynaf Thomas (bardd talentog ac adnabyddus) a Mary Jones — yr hynaf o 10 o blant, yn wreiddiol o Fryn Du, Cefn Brith. Canwr penillion a chwaraewr y crwth a’r delyn.
  • John Robert Jones. Hafod Ifan, Ysbyty Ifan. Private 203668. RWF “B” Company, 9fed Fataliwn. Cofeb Tyne Cot, West-Vlaanderen, Gwlad Belg. Bu farw Medi’r 20fed 1917 yn 29 mlwydd oed. Mab Edward ac Elizabeth, fferm Hafod Ifan. Ar ol gweithio ar fferm y teulu, mi ymrestrodd yn wirfoddol i’r fyddin.
  • John Robert Jones. 4 Stryd y Felin, Ysbyty Ifan.  Private 37671 (3946 gynt). Gloucestershire Regiment (Monmouthshire Regiment gynt). Cofeb Tyne Cot, West-Vlaanderen, Gwlad Belg. Bu farw Hydref 10fed 1917 yn ardal Ypres — o fewn 21 diwrnod i John Robert Jones arall y pentref (Hafod Ifan) yn yr un ardal.
  • William Wood. 3 Stryd y Felin, Ysbyty Ifan. Private 29440. RWF 19eg Fataliwn. Cofeb Cambrai, Louveral, Ffrainc. Bu farw ar Dachwedd 24ain 1917 yn 29 oed ym mrwydr Coed Bourlon - rhan o frwydr Cambrai. Un o 4 mab Robert ac Anne Wood, 3 Stryd y Felin, Ysbyty Ifan bu wasanethu yn y Rhyfel Mawr (Hubert, David a Frank oedd y lleill). Yn ôl cerdd goffa gan William Morgan Jones, Willie Wood oedd “Lleiswr tenor mwya’r Llan”.
  • John Lloyd. ‘Yr Afon Bach’, Ysbyty Ifan (Tai’n y Maes gynt). Private 52345. RWF 17eg Fataliwn. Claddwyd ym Mynwent Brydeinig Englefontaine, Nord, Ffrainc. Lladdwyd gan sniper Almaeneg ar  Hydref 29ain 1918 yn 29 mlwydd oed. Mab i Benjamin ac Ann Lloyd o fferm Tai’n y Maes, Ysbyty Ifan. Ar ol gweithio ar fferm y teulu, priododd a symudodd i’r pentref (mewn adroddiad o bapur newydd Y Llan mynegir “cydymdeimlad â’i weddw a’i blant bach”).
  • John ‘Cynfal’ Roberts. Bod Ifan, Ysbyty Ifan. Lieutenant, Royal Field Artillery ‘A’ Battery, 158fed Frigad. Enillodd y Groes Filwrol ym mrwydr Passchendaele. Bu farw Tachwedd 11eg 1918 (Dydd y Cadoediad) o niwmonia yn 30 oed. Claddwyd ym Mynwent Brydeinig Terlincthum, Calais, Ffrainc.soldier icon