Harbwr y Foryd, Rhyl
Harbwr y Foryd, Rhyl
Rhuddlan oedd prif borthladd Dyffryn Clwyd ar un adeg. Gochmynodd y Brenin Edward I i’w weithwyr sythu afon Clwyd fel y gallai llongau gyflenwi ei gastell newydd yn Rhuddlan. Wrth i'r sianel lenwi â llaid, a chyda thwf y Rhyl, cymerodd Harbwr y Foryd drosodd.
Byddai’r enw “Harbwr y Foryd” ar un adeg wedi gwahaniaethu’r doc wrth aber yr afon o’r doc yn Rhuddlan. Erbyn heddiw mae “Foryd” yn enw ar ardal o’r Rhyl.
Ar lanw isel, gellir gweld hen bren yn y llaid wrth ymyl ddwyreiniol yr harbwr. Olion ydi’r rhain o City of Ottawa, llong hwylio mawr a adeiladwyd yng Nghanada ym 1860. Cludodd cargo ar draws y byd, ond cefnwyd arni yn y Rhyl ar ôl storm ei difrodi ym 1906.
Ym 1907 cafodd llong ryfel 1,600 tunnell HMS Fearless ei sgrapio yn Harbwr y Foryd. Defnyddiwyd ffrwydron. Llwyddodd deiliaid tŷ cyfagos o'r enw Foryd Lodge i ennill waharddeb llys um Mawrth 1907 a oedd yn gwahardd ffrwydradau a fyddai’n taflu darnau o fetel o ochr ddwyreiniol yr harbwr i'r gorllewin. Parhaodd ffrwydradau, fodd bynnag. Roedd un, ym mis Rhagfyr 1907, mor swnllyd fel y rhuthrodd pobl i'r ardal yn y gobaith o weld llongddrylliad mawr.
Gyda diolch i David Bathers
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |