Canolfan mentrau creadigol Galeri
Canolfan mentrau creadigol Galeri, Doc Fictoria, Caernarfon
Agorwyd yr adeilad trawiadol hon ym mis Ebrill 2005, ar safle a ddefnyddiwyd yn flaenorol ar gyfer allforio llechi. Mae'n cynnwys theatr a sinema gyda 394 o seddau, 24 uned swyddfa, stiwdio ymarfer, gofod ar gyfer celf, bar caffi ac ystafelloedd i gyfarfodydd.
Codwyd yr adeilad, ar gost o £7.5m, gan Cwmni Tref Caernarfon Cyf. (sydd bellach yn Galeri Caernarfon Cyf.), ymddiriedolaeth nid-er-elw a sefydlwyd yn 1992 i weithredu prosiectau cynaliadwy yn y dref gyda'r nod o ysgogi creadigrwydd a thwf economaidd. Erbyn 2005 doedd gan Caernarfon yr un sinema, ac roedd prinder hefyd o lefydd lle y gallai trigolion neu ymwelwyr fwynhau perfformiadau byw.
Cynlluniwyd yr adeilad gan Richard Murphy Architects o Gaeredin. Yn unol â'r lleoliad ger hen ddoc, mae’r cynllun yn adleisio phensaernïaeth warws a llongau. Ymhlith y nodweddion amlwg y mae byrddau derw gwyrdd a fframwaith dur.
Mae'r tu mewn wedi'i gynllunio’n ofalus i alluogi Galeri i gyflawni sawl swyddogaeth ar yr un pryd. Mae'r swyddfeydd yn weladwy iawn i ymwelwyr wrth iddynt gerdded i mewn i'r adeilad, i greu ymdeimlad o ryngweithio rhwng y cyhoedd a'r bobl sy'n gwneud gwaith creadigol ar y safle.
Darparwyd cyllid ar gyfer adeiladu Galeri gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yr Undeb Ewropeaidd, Cyngor Gwynedd a chyrff eraill.
Côd Post: LL55 1SQ
![]() |
![]() ![]() |