Doc Fictoria, Caernarfon
Doc Fictoria, Caernarfon
Crewyd Doc Fictoria fel y “Basn Newydd” o 1868 i 1875. Cyn hyn roedd y cei llechi, i’r de o'r castell, wedi bod yn brif ffocws i ehangiad harbwr Caernarfon yn y 19eg ganrif. Ond ym1852 dechreuodd trenau i redeg ar linell o’r brif reilffordd ym Mangor. Safai’r orsaf terfyn lle mae archfarchnad Morrisons heddiw. Yn dilyn hynny, ymestynwyd y rheilffordd trwy dwnnel o dan Y Maes. Roedd y traciau hyn yn darparu mynediad ardderchog i ardal y Basn Newydd.
Parhaodd y cei llechi i drin allforion a mewnforion diwydiannol, Pwrpas Doc Fictoria oedd i wasanaethu’r masnach cyffredinol a oedd yn gysylltiedig â'r dref a’i chyffiniau. Roedd hyn yn adfywiad o cyfeiriadedd y dref gaerog yn yr 13eg ganrif, pan oedd masnach mewnforio sylweddol yn seiliedig ar y ceiau wrth aber yr afon Cadnant, i'r gogledd.
Mae’r llun o’r awyr, trwy garedigrwydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn dangos Doc Fictoria, yr orsaf a storfan olew ym 1953. Daw o Gasgliad Aerofilms Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Mae pont droed dur yn croesi'r llithrfa, y "patent slipway". Gall ei ddau hanner gael eu llithro o'r neilltu i adael i gychod symud i fyny neu i lawr y llithrfa. Adeiladwyd y llithrfa ym 1830 ar gyfer adeiladu ac atgyweirio llongau, ac fe orchfygodd pan ddatblygwyd Doc Fictoria. Roedd y llithrfa yn ddigon llydan ar gyfer llongau oedd yn hwylio’r moroedd. Cyn dyfodiad winshis mecanyddol, byddai pobl leol yn ennill ychydig o bres am helpu i dynny’r llongau i fyny’r llethr.
Yn 1997 ail-agorodd Doc Fictoria fel marina ar gyfer cychod hamdden, gyda llidiart fflap newydd ar draws ceg y doc. Gellir newid lefel y llidiart i sicrhau bod y dŵr yn y doc o leiaf dau metr o ddyfnder, hyd yn oed pan fydd y llanw'n isel.
Cod post: LL55 1SR Map
Gwefan Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon
Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |