Golygfan Foel Lus, ger Penmaenmawr

O’r gyffordd llywbrau yma, ar ochr ddwyreiniol Foel Lus, medrwn edrych yn syth ar hyd Bwlch Sychnant, lle’r adeiladwyd ffordd tyrpeg ym 1772. Ymhellach i ffwrdd, ar ddiwrnod clir, fe welwn dai Deganwy, ar ochr pellaf moryd Conwy. Ymhellach fyth, ar ochr arall y Creuddyn, y mae Llandrillo-yn-Rhos – a welir yn fwy eglur trwy ddringo ychydig yn uwch tuag at gopa Foel Lus.

O’r man yma, mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhedeg yn wastad a amgylch ochr ogleddol Foel Lus ar lwybr y Jiwbilî. Agorwyd y llwybr yn 1888, blwyddyn wedi Jiwbilî’r frenhines Fictoria. O’r llwybr gwelir Sir Fôn ac Ynys Seiriol, a enwyd ar ôl y sant a greuodd meudwyfa yno yn y 6ed ganrif.

Defnyddiwch y llun isod i adnabod nodweddion i’r dwyrain o Foel Lus.

Dywedir bod sant o’r enw Ulo wedi lleoli capel yn y Canol Oesoedd cynnar yn yr ardal lle mae pentref Capelulo heddiw. Ar un adeg, roedd Esgob Bangor yn berchen ar y tir a adnabyddir heddiw fel Maen Esgob, yn ôl yr hanes.

image of foel lus view

Map

Wales coast path tour button Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button