Grave of Cynan (d.1970)

menai_bridge_grave_cynan

Albert Evans-Jones ‘Cynan’ (d.1970)

The poet and dramatist Albert Evans-Jones was born in Pwllheli in 1895, the eldest son of Richard Albert Jones and Hannah Jane Jones (nee Evans). The family ran a bakery and general stores known as Liverpool House, writes Lis Perkins, the poet's great-niece.

Cynan left Pwllheli in 1912 to study divinity at Bangor University before joining the Royal Army Medical Corps in 1916. He saw active service in Macedonia and France, initially as an ambulance man and later as the company's chaplain. 

His 1917 poem Anfon y Nico describes a soldier in the First World War asking a goldfinch to take a message back to his sweetheart in Wales. To hear the poem, read by Lis Perkins, press play: Or, download mp3 (1.25MB)

After the war, Cynan trained for the ministry and was ordained at Penmaenmawr in 1920.  He served as minister there until 1931 when he became a tutor in the Extramural Department of Bangor University specialising in Drama and Welsh Literature. In 1931 he was appointed reader of Welsh plays on behalf of the Lord Chamberlain, a post which he held till the abolition of censorship in 1968. 

Cynan won the National Eisteddfod crowns at Caernarfon (1921), Mold (1923) and Bangor (1931) as well as the chair in Pontypool (1924). He served as Archdruid twice, modernising many of the Eisteddfod ceremonies. He was knighted by the Queen in 1969, just a few months before he died aged 74. He was granted the freedom of Pwllheli in 1963 but didn’t return to live in the town, choosing instead to settle in Menai Bridge.

His first wife Ellen Jane Jones (Nell) and their son Dr Emyr ap Cynan are interred in the same grave.

Return to Church Island graveyard page

 

 

Bedd Albert Evans-Jones 'Cynan'

Ganed y bardd a'r dramodydd Albert Evans-Jones ym Mhwllheli ym 1895, mab hynaf Richard Albert Jones a Hannah Jane Jones (nee Evans). Roedd y teulu’n rhedeg becws a siop o’r enw Liverpool House. 

Gadawodd Cynan Bwllheli ym 1912 i astudio diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor cyn ymuno â Chymdeithas Meddygol y Fyddin Frenhinol ym 1916. Aeth gyda’r fyddin i Facedonia a Ffrainc, yn gyntaf fel dyn ambiwlans ac yna fel caplan. 

Mae’r gerdd Anfon y Nico, a ysgrifennodd ym 1917, yn disgrifio milwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn gofyn i’r nico (goldfinch) fynd â neges yn ôl at ei gariad yng Nghymru. I glywed y gerdd, a ddarllenir yma gan Lis Perkins (gor-nith y bardd), gwelwch uchod. 

Yr hanes yw bod Cynan, ar ôl y rhyfel, wedi derbyn hyfforddiant ac wedi cael ei ordeinio ym Mhenmaenmawr ym 1920.  Ond yn ôl ei fab yng nghyfraith, Tom O’Connor, cafodd Cynan ei ordeinio yn ystod y rhyfel mewn Eglwys Uniongred Roegaidd ym Macedonia. Beth bynnag am hynny, bu Cynan yn weinidog ym Mhenmaenmawr tan 1931 pan ddaeth yn diwtor yn Adran Allanol Prifysgol Bangor yn arbenigo mewn Drama a Llenyddiaeth Gymraeg. Ym 1931 penodwyd ef yn ddarllenydd  dramâu Cymraeg ar ran yr Arglwydd Siambrlen, swydd a gadwodd hyd at ddiwedd sensoriaeth ym 1968. 

Enillodd Cynan goronau Eisteddfodau Cenedlaethol Caernarfon (1921), Yr Wyddgrug (1923) a Bangor (1931) yn ogystal â'r gadair ym Mhont-y-pŵl (1924). Fe’i penodwyd yn Archdderwydd ddwywaith ac ef oedd yn gyfrifol am foderneiddio nifer o seremonïau'r Eisteddfod. Fe'i gwnaed yn farchog ym 1969, ychydig fisoedd cyn iddo farw yn 74 mlwydd oed. Derbyniodd rhyddid Pwllheli ym 1963 ond ni ddychwelodd i’r dref honno i fyw, gan ddewis yn hytrach i ymgartrefu ym Mhorthaethwy. 

Mae ei wraig gyntaf, Ellen Jane Jones (Nell), a'u mab Dr Emyr ap Cynan yn gorwedd yn yr un bedd.

Yn ôl i dudalen mynwent Llandysilio