Great Orme Tramway Cymraeg

sign-out

Tramffordd y Gogarth

Agorodd rhan isaf Tramffordd y Gogarth ym mis Gorffennaf 1902. Pan agorodd y rhan uchaf flwyddyn yn ddiweddarach, gallai twristiaid reidio bron i gopa'r Gogarth o Landudno. Roedd hyn yn caniatáu ymwelwyr i fwynhau'r golygfeydd heb iddynt orfod dringo’n serth, ac wedyn disgyn, ar droed.

Enwyd gorsaf Fictoria, lle mae’r dramffordd yn dechrau yn Llandudno, ar ôl Victoria House, adeilad a ddymchwelwyd i greu lle i’r dramffordd. Crewyd y llinell mewn dau hanner, i gyd-fynd â’r pŵer oedd ar gael ym 1902 i dynnu’r tramiau i fyny'r graddiant serth. Mae’r rhan isaf bron 800 metr o hyd, a’r rhan uchaf 756 metr.

Ar y naill adran a’r llall rhed dau dram, sy'n pasio ei gilydd yn y man canol. Y rhan fwyaf serth yw'r rhan gyntaf allan o orsaf Fictoria, lle mae'r graddiant yn arywio i fyny at 1 mewn 3.6. Er bod hanner uchaf y dramffordd wedi’i gwahanu oddi wrth traffig ffyrdd (ag eithrio ar groesfannau), rhed yr hanner isaf yn rhannol yn y ffordd. Yma mae’r rhwng y cledrau, sy’n tynnu’r tramiau, wedi’i gladdu mewn cafn â dim ond hollt gul ar hyd y ffordd. Darperir goleuadau traffig, gan gynnwys goleuadau arbennig ar gyfer y tramiau, lle mae'r trac yn croesi Ffordd Tŷ Gwyn.

Digwyddodd damwain angheuol ym 1932, pan dorrodd elfen ar dram a oedd yn disgyn ar y traciau mwyaf serth. Cyflwynwyd breciau awtomatig ym 1934. Pasiodd y dramffordd i berchnogaeth trefol yn 1949 ac mae bellach yn eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Yn 2000-01, uwchraddiodd y cyngor y dramffordd gydag offer rheoli gwell ac adeilad newydd yn yr orsaf hanner ffordd.

Ymhle mae'r HiPoint hwn?

Gwefan Tramffordd y Gogarth

Postcode: LL30 2NB