Marina Deganwy
Marina Deganwy
Adeiladwyd y fraich o dir ger Deganwy gan y London & North Western Railway mewn ymgais i gipio peth o’r elw a oedd ar gael o gludo llechi o chwareli Gogledd Cymru. Agorwyd harbwr Deganwy ym 1885 efo traciau lled safonol a chul. Daethai wagenni bach llond llechi yn syth o chwareli Blaenau Ffestiniog, trwy eu llwytho ar wagenni mwy y LNWR ar gyfer y siwrne ar hyd Dyffryn Conwy i Ddeganwy. Yno dadlwythwyd y wagenni bach a’u gosod ar y trac cul i hwyluso’r gwaith o drosglwyddo’r llechi i’r llongau.
Ni lewyrchodd y fenter oherwydd yr oedd Rheilffordd Ffestiniog (heddiw yn atyniad i dwristiaid) yn cynnig llwybr byrrach i’r môr ym Morthmadog.
Yng nghanol yr 20ed ganrif, defnyddid y seidins wrth ymyl harbwr Deganwy i gadw hen gerbydau rheilffordd a cai eu defnyddio ar gyfer cludo’r torfeydd a dyrrai i arfordir y Gogledd yn yr haf. Codwyd y seidins yn y 1960au.
Yn y 1970au daeth yr harbwr yn ardal cyfleus i berchnogion cychod pleser i angori, cadw a thrwsio’u cychod. Roedd y fraich o dir adeg hynny yn gartref i nifer o fusnesau, yn cynnwys cwmni adeiladu cychod Williams o 1930 i 1979. Ond roedd dŵr yr harbwr yn rhy fas i gychod i fynd a dod pan oedd y llanw’n isel, ac felly doedd y cyfleusterau ddim yn medru cystadlu pan agorwyd marina Conwy. Yn 2002 cychwynwyd y brosiect i drawsffurfio’r hen harbwr i greu hafan gyda dyfnder cyson o ddŵr. Agorodd hon yn 2004, ynghyd â’r cyntaf o’r tai newydd ar y lan. Agorodd Hotel Cei Deganwy yn 2007.
Diolch i Grwp Hanes Deganwy
Côd post: LL31 9DJ Map
![]() |
![]() ![]() |