Hen garchar Rhuthun

Hen garchar Rhuthun, 46 Stryd Clwyd

Dyma un o'r carchardai cyntaf ym Mhrydain a gafodd ei adeiladu mewn ymateb i ddiwygio carchardai ym 1774. Roedd y diwygio wedi ateb rhai o’r pryderon a gododd y diwygiwr cymdeithasol John Howard, a ddaeth yn uchel siryf Swydd Bedford ym 1773. Roedd o wedi synnu i weld yr amgylchiadau yn y carchardai lleol, ac fe arolygodd eraill a gweld mwy o ddiffygion. Ymatebodd ynadon Sir Ddinbych yn gyflym i’r diwygio. Cafodd Joseph Turner, pensaer o Gaer, y gwaith o gynllunio carchar newydd i Rhuthun. Cwblhaodd y cynlluniau erbyn mis Ebrill 1794 ac fe agorodd yr adeilad y flwyddyn olynnol.

Ymestynwyd yr adeilad sawl gwaith cyn i ddeddfwriaeth newydd ym 1865 godi’r safonau eto. I gydymffurfio, dechreuodd gwaith ym 1866 ar floc pedwar llawr gyda lle ar gyfer 100 o garcharorion. O fis Ebrill 1878, hwn oedd y carchar ar gyfer siroedd Ddinbych, y Fflint a Meirionnydd. Ym 1904 roedd 81 dyn a chwe dynes yn garcharorion yn Rhuthun.

Carcharor hynod oedd John Jones, dyn na fedrai peidio dwyn eiddo. Dihangodd o garcharau sawl gwaith, gan gynnwys dwywaith o garchar Rhuthun. Daeth yn enwog am y campau hyn, ac fe’i edmygwyd fel arwr gwerin gan rai. Ar ôl dianc o Rhuthun am y tro cyntaf, cafodd yr awdurdodau hyd iddo mewn gwely yn y Swan Inn, Mochdre.

Caeodd y carchar ym 1916. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, prynodd Cyngor Sir Ddinbych yr adeilad am £4,000 ar gyfer swyddfeydd a llyfrgell. Roedd ffatri ffrwydron yn yr hen garchar yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ers gwaith adnewyddu gwerth £2m yn 2002, mae ymwelwyr yn medru gweld y celloedd ac ardaloedd eraill y tu mewn a dysgu am ddatblygiad y system carchar ym Mhrydain.

Fel cartref i archifdy Sir Ddinbych, mae’r hen garchar hefyd yn croesawu miloedd o bobl yn flynyddol i ymchwilio achau neu weld hen ddogfennau, mapiau a ffotograffau.

Côd post: LL15 1HP    Map