In memory of John John Hughes
John John Hughes was born in 1894 to John and Mary, writes his nephew John Hughes. The family lived at a smallholding named Hafod Owen, in Ceunant, Llanrug. After the war the parents lived at Tan y Coed, Llanrug. The photo shows John with his two sisters, Jane (centre) and Elizabeth.
They had another brother, Richard, who died at Hafod Owen, aged 23, of pneumonia before the First World War. They also had another sister, Mary, who was married by the war and later lived in Deiniolen.
John worked as a quarryman before he enlisted in the army in Llanberis. He may have been one of the many quarrymen who signed up after the visit to Llanberis of the Rev John Williams of Brynsiencyn, Anglesey, in September 1914 on a controversial recruiting mission.
John served initially as a Private with the Royal Welsh Fusiliers, before transferring to the Machine Gun Corps. He survived battles at Somme, Ypres and Arras. He paid a visit to Hafod Owen while on leave in October 1917.
He returned to the Western Front and was killed in action on 24 April 1918, aged 24. He is buried at Varennes Military Cemetery, in the Somme region of France. Having lost both of their sons, John and Mary Hughes had to leave their smallholding at Hafod Owen and moved to Tan y Coed, Llanrug.
Return to Llanrug war memorial page
Er Coffadwriaeth o John Hughes
Yn ôl ysgrifen ei nai John Hughes, ganwyd John John Hughes yn 1894 i John a Mary. Roedd y teulu'n byw mewn tyddyn o'r enw Hafod Owen, yng Ceunant, Llanrug. Wedi'r rhyfel roedd y rhieni yn byw yn Tan y Coed, Llanrug. Mae'r llun uchod yn dangos John gyda'i ddwy chwaer, Jane (canol) ac Elizabeth.
Roedd ganddynt frawd arall, Richard, a fu farw yn Hafod Owen, 23 oed, o niwmonia cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd ganddynt hefyd chwaer arall, Mary, a briododd erbyn y rhyfel ac a fu'n byw yn Deiniolen yn ddiweddarach.
Gweithiodd John fel chwarelwr cyn iddo ymrestru yn y fyddin yn Llanberis. Mae'n bosibl iddo fod yn un o'r nifer o chwarelwyr a ymunodd ar ôl yr ymweliad â Llanberis y Parch John Williams o Frynsiencyn, Ynys Môn, ym mis Medi 1914 ar genhadaeth recriwtio ddadleuol.
Gwasanaethodd John fel Preifat i ddechrau gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, cyn trosglwyddo i'r Corfflu Gynnau Peiriant. Goroesodd frwydrau yn Somme, Ypres ac Arras. Talodd ymweliad â Hafod Owen tra ar wyliau ym mis Hydref 1917.
Dychwelodd i Ffrynt y Gorllewin a chafodd ei ladd ar 24 Ebrill 1918, yn 24 oed. Fe'i claddwyd ym Mynwent Filwrol Varennes, yn rhanbarth y Somme, Ffrainc. Ar ôl colli'r ddau fab, bu'n rhaid i John a Mary Hughes adael eu tyddyn yn Hafod Owen a symud i Tan y Coed, Llanrug.
Dychwelyd i dudalen Neuadd Goffa Llanrug