Nantclwyd y Dre, Rhuthun

ruthin_nantclwyd_interiorNantclwyd y Dre, Stryd y Castell, Rhuthun

Mae’r tŷ du a gwyn hynod hwn wedi goroesi ers y degawdau pan fu rhaid ailadeiladu Rhuthun, a llawer tref arall yng Nghymru, wedi’r dinistr a achoswyd gan ddilynwyr Owain Glyndŵr. Mae profion carbon wedi datgelu fod peth o’r pren yn y tŷ yn dyddio o 1435 neu 1436. Ar y pryd roedd safle’r tŷ yn perthyn i wehydd o’r enw Madog ap Goronwy a'i wraig Seisnig Suzanna. Roedd gwehyddu yn ffynnu yn Rhuthun ar y pryd.

Yn yr oesoedd canol, aeth un o drigolion y tŷ ar bererindod i Rufain. Rydym yn gwybod hyn achos bod y ffaith wedi’i gofnodi ar bapur a ddarganfyddwyd yn yr adeilad tra oedd gwaith adfer yn cael ei wneud.

Mae’n debyg i’r tŷ gael ei enwi Nantclwyd y Dre yn y 1720au. Roedd yn gartref i nifer o bobl ddylanwadol dros y canrifoedd. O 1834 i 1970, roedd barnwyr yn aros yma tra’n eistedd ym mrawdlys Rhuthun. Yn hwyr yn y 19eg ganrif, roedd yr adeilad hefyd yn gartref i ysgol i ferched.

Yn 1925 prynwyd Nantclwyd y Dre gan beiriannydd sifil o’r enw Clinton Holme, a oedd eisioes yn denant. Tynodd y plastar oddi ar y waliau allanol i ddatgelu’r fframiau pren ym 1928. Parhaodd y perchennog nesaf, Samuel Dyer Gough, efo’r gwaith adfer. Gwerthodd ei weddw’r tŷ i Gyngor Sir Clwyd ym 1984.

ruthin_nantclwyd_gardenErs 2007 mae’r tŷ wedi bod yn amgueddfa, gydag ystafelloedd wedi’u cyflwyno i ddangos sut y byddau gwahanol berchnogion wedi byw yma dros y canrifoedd. Mae'r llun uchod yn dangos astudfa Thelwall.

Mae gerddi Nantclwyd y Dre yn hŷn na’r tŷ! Rhoddwyd y gerddi, ynghyd ȃ Castell Rhuthun, yn y 1280au i Reginald de Grey fel gwobr am ei gymorth i atal gwrthryfel gan y Tywysog Llywelyn ap Gruffydd. Roedd y gerddi yn cyflenwi ffrwythau, llysiau a pherlysiau i'r castell.

Yn 2016 ail-agorwyd y gerddi, sydd yn rhestredig Gradd II, ar ôl prosiect adfer gwerth £220,000, diolch i waith a chyllid gan Gyfeillion Nantclwyd y Dre, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Tref Rhuthun a Chronfa Dreftadaeth y Loteri.

Côd post: LL15 1DP    Map

Nantclwyd y Dre – amseroedd agor a gwybodaeth arall