Oriel Mostyn, Llandudno

button-theme-womenOriel Mostyn, 12 Vaughan Street, Llandudno

Credir mai Oriel Gelf y Mostyn oedd y cyntaf drwy’r byd i gael ei adeiladu ar gyfer dangos gwaith artistiaid benywaidd. Talwyd am ei adeiladu gan Lady Augusta Mostyn, penteulu Ystad y Mostyn am dros 30 mlynedd a chymwynaswraig nodedig i’r celfyddydau. Roedd hi’n Llywydd a noddwraig y Gwynedd Ladies Art Society (GLAS) ac yn awyddus i ddangos gwaith y merched yn gyhoeddus. Roedd aelodau’r Gymdeithas yn dod o wahanol fannau ar draws Prydain, ond am eu bod yn fenywaidd atalwyd hwy rhag bod yn aelodau o Academi Frenhinol y Cambrian ac arddangos yng Nghonwy.

Wedi’i gynllunio yn wreiddiol yn 1900 gan bensaer Stâd Mostyn, G A Humphreys, dechreuodd yr oriel ddangos arddangosfeydd yn 1901. Fodd bynnag, ychydig flynyddoedd yn unig y bu ar agor ac yn gartref i’r GLAS a caeodd yn 1913 gyda’r rhyfel ar y gwarthe pan ddeath i feddiant gorfodol fel neuadd ymarfer. Yna, yn dilyn defnydd fel stordy a phwrpasau masnachol eraill cafodd ei feddiannu yn orfodol eto, y tro yma yn ystod yr ail ryfel byd fel pencadlys ar gyfer swyddfa Gyllid Gwladol. Yn y cyfamser roedd y Corfflu Meddygol Americanaidd wedi agor caffi yn yr islawr dan yr enw Do-nut Dug Out. Roedd carfan fawr o Americanwyr yn Llandudno.

Wedi’r rhyfel denfyddiodd Siop Bianos Wagstaff’s yr adeilad. Yn 1976 roedd yr artist Kyffin Williams, ymysg eraill, wedi awgrymu y dylai’r adeilad gael ei ddefnyddio ar gyfer oriel gelf newydd arfaethedig i Ogledd Cymru. Bu’r Penseiri Colwyn Foulkes yn goruchwylio’r adnewyddu ac fel ailagorodd fel Oriel Mostyn ar 11 Awst 1979.

Daeth cynllun ehangu ar y gweill dan oruchwyliaeth Penseiri Ellis Williams pan symudwyd rhai o adnoddau’r Post Brenhinol o’r adeilad drws nesaf. Bu’r oriel ynghau o 2007 – 2010 tra ehangwyd yr adeilad gan gyfuno’r hen a’r newydd ac adnewyddu’r ffasad Fictorianaidd. Y newid mwyaf i du allan yr adeilad oedd meindwr aur o deils aliminiwm wedi’i anodeiddio. Gwneir defnydd trawiadol o goncrid y tu mewn – yn cynnwys y ddesg yn y siop!

Sefydlwyd Mostyn fel y brif oriel gelf gyfoes yng Nghymru, yn dangos celf o Gymru a thramor. Mae’n derbyn cymorth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gwsanaethau celf Cyngor Bwrdeisdref Sirol Conwy a Chyngor Tref Llandudno

Gwefan Oriel Mostyn

Côd post: LL30 1AB    Map