Safle Pafiliwn y Pier, Llandudno

photo of pier pavilionDoes dim llawer mwy i’w weld o Bafiliwn y Pier heddiw na thwll yn y ddaear. Ond hwn oedd prif lleoliad Llandudno ar gyfer adloniant o'r cyfnod Fictoraidd hyd at ei anterth yn y 1950au. Ym 1881 dechreuodd y gwaith o godi adeilad gyda 2,200 o seddi a thri llawr. Roedd y strwythur yn bennaf o haearn bwrw, gydag addurniadau gwych manwl.

Ar y llawr gwaelod roedd y pwll nofio mwyaf dan do ym Mhrydain, neu felly honnwyd! Agorodd ym mis Medi 1886. Roedd y Pafiliwn 62 metr o hyd, 26 metr o led a 32 metr o uchder. Roedd to’r canopi yn ymestyn 18 metr ar draws. Fe'i cynlluniwyd yn bennaf fel neuadd gyngerdd.

Yn 1887 daeth Jules Riviere, cyfansoddwr, arweinydd ac impresario Eingl-Ffrengig, a’i gerddorfa o 28 offerynydd i'r Pafiliwn ar gyfer cyngherddau dyddiol. Parhaodd y cyngherddau o dan arweinyddion eithaf enwog lawer tan 1936.

Gallwch ddarllen mwy amdano ar ein tudalen am ei fedd ym mynwent eglwys Llandrillo-yn-Rhos.

Yn 1888 bwciodd Jules Riviere Seindorf Arian Dyffryn Nantlle i chwarae gorymdeithiau mewn cyngerdd. Yn ystod y perfformiad, syrthiodd y llwyfan dros dro yr oedd aelodau’r seindorf yn eistedd arno, a disgynnodd 20 o’r cerddorion dri metr (10 troedfedd). Wedi ail-drefnu eu hunain, aethant ati i berfformio'r gorymdeithiau ar yr offerynnau a oedd yn dal mewn cyflwr addas i’w chwarae.

Ar ôl dirywiad ym mhoblogrwydd cyngherddau, cynhaliodd y Pafiliwn yn sioeau amrywiaeth (variety) a chynadleddau. Roedd y perfformwyr yn cynnwys George Formby, Paul Robeson, Pavlova (seren bale o Rwsia), Billy Cotton, Petula Clark, Vera Lynn, Arthur Askey, y Chwiorydd Beverly, Cyril Fletcher, Cliff Richard a Hughie Green.

Ymhlith y gwleidyddion a fynychodd gynadleddau yn y Pafiliwn yr oedd Stanley Baldwin, Ramsey MacDonald, Oswald Mosley, Neville Chamberlain, Clement Attlee, Harold MacMillan, Edward Heath a Winston Churchill. Dywedir bod Margaret Thatcher ifance wedi penderfynnu dilyn gyrfa gwleidyddol tra yr oedd hi’n mynychu cynhadledd y Blaid Geidwadol yno yn 1948.

Caewyd y Pafiliwn yn 1990. Llosgwyd yr adeilad ym 1994, er bod peth o'r gwaith haearn yn dal i fod ger y pier.

Gyda diolch i John Lawson-Reay, o Gymdeithas Hanes Llandudno a Bae Colwyn

Côd post:: LL30 2LR    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
Llandudno Showbiz Tour Lable Navigation previous buttonNavigation next button