Pont y Pair, Betws-y-coed
Credir i’r bont hon gael ei hadeiladu tua 1500 gan Hywel Saer Maen. Yn wreiddiol roedd yn ddigon llydan i geffylau pwn, ac fe’i ehangwyd yn ddiweddarach. Mae’r llun yn dangos yr olygfa o’r bont yn y 1890au.
Mae gan y bont bum bwa cylchrannol. Dim ond y bwa canolog sy’n pontio afon Llugwy. Mae'r bwâu eraill yn arwain y ffordd ar y lefel ofynnol tuag at yr adran ganolog.
Daw’r enw “Llugwy”, mae'n debyg, o’r duw Celtaidd Lleu, duw yr haul neu olau.
Mae’n hawdd gweld sut y cafodd y bont ei henw pan fydd dŵr yr afon yn chwyrlio megis hylif yn berwi mewn pair.
Daeth Pont y Pair yn ddarn pwysig o’r seilwaith genedlaethol ym 1808, pan ddargyfeiriwyd y cerbydau rhwng Llundain a Chaergybi i redeg y ffordd hon ar ôl cwblhau Pont yr Afanc, y bont garreg dros afon Conwy i’r de o Fetws-y-coed. Roedd y dargyfeirio yn ymateb at drychineb fferi Conwy ym 1806. Rwan cai teithwyr osgoi'r fferi drwy groesi'r afon Conwy lawer ymhellach i'r de a defnyddio'r ffordd drwy Trefriw i gyrraedd tref Conwy. Peidiodd y cerbydau ddefnyddio Pont y Pair pan gawsant eu dargyfeirio ar hyd ffordd newydd Thomas Telford (bellach yr A5) yn y 1820au.
Mae glan yr afon uwchlaw’r bont wedi bod yn ardal hamdden boblogaidd ers amser maith. Yn 1887 roedd y canwr opera Gwyddelig Leslie Crotty yn cerdded yno gyda'i wraig a'i ffrindiau pan welodd fachgen yn syrthio i'r afon ger Pont y Pair. Rhuthrodd i’r dŵr ac arbed y plentyn rhag cael ei gario dros y rhaeadrau a’i foddi.
Côd post: LL24 0BN Map
![]() |
![]() ![]() |