Taith Gerallt Gymro trwy Gymru yn 1188
Taith Gerallt Gymro trwy Gymru yn 1188
Defnyddiwch ein tudalennau gwe i ddilyn y llwybr a gymerodd Giraldus Cambrensis – Gerallt Gymro – yn 1188 pan aeth ar daith o amgylch Cymru gydag Archesgob Caergaint i recriwtio tua 3,000 o ddynion ar gyfer y trydydd croesgad. Ymhob lleoliad dan sylw mae codau QR y gallwch eu sganio i dderbyn y dudalen we berthnasol ar eich ffôn clyfar neu dabled.
Mae cofnod ysgrifenedig manwl Gerallt o’r daith (yn Lladin) yn un o’r ffynonellau gorau ar Gymru yn y 12fed ganrif. Teithiodd Gerallt ychydig mwy na chanrif ar ôl Brwydr Hastings. Arweiniodd y tensiynau rhwng y Cymry brodorol a brenhinoedd ac arglwyddi yr Eingl-Normaniaid at gyflafanau, herwgipio a digwyddiadau eraill a gofnodwyd gan Gerallt.
Maesyfed, Powys
Castell Y Fenni, Sir Fynwy
Cadeirlan Llandaf, Caerdydd
Abaty Margam, Nedd Port Talbot
Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin
Cadeirlan Tyddewi, Sir Benfro
Ystrad Fflur, Ceredigion
Nefyn, Gwynedd
Porthaethwy, Sir Fôn
Rhuddlan, Sir Ddinbych
Abaty Basingwerk, Sir Y Fflint
Dyffryn Ceriog, Wrecsam
Mae ei deithlen yn adlewyrchu pwysigrwydd lleoedd ar y pryd. Mae’n hepgor rhai trefi a ddaeth i amlygrwydd yng nghyfnodau diweddarach yn hanes Cymru, gan gynnwys arddodiad rheolaeth Lloegr tua diwedd y 13eg ganrif.
Ni chofnododd Gerallt yr union leoliadau yr ymwelodd â hwy yn rhai o’r trefi ar hyd y llwybr, gan gynnwys Aberhonddu, Casnewydd a Llanbedr Pont Steffan. Rydym wedi tybio mai'r eglwysi a fodolai ar y pryd oedd y lleoliadau mwyaf tebygol, ac wedi eu cynnwys yn ein taith.
Mae’r daith yn cychwyn ym Maesyfed, Powys, ac yn gorffen yn Nyffryn Ceiriog, ger Wrecsam. Gallwch ymuno â’r daith ar-lein trwy ddewis lleoliad o'r rhestr ar y dde. Ar ôl darllen pob testun, defnyddiwch yr eicon ‘Nesaf’ wrth ymyl baner y daith i ddarganfod y lleoliad nesaf ar y llwybr.
I weld map yn dangos pob lleoliad ar ein taith, cliciwch yma (ffenestr newydd yn agor).
Darllen a gwylio pellach:
Mae hanes cyflawn Gerallt o’r daith, a gyfieithwyd i’r Saesneg gan Lewis Thorpe, ar gael gan Penguin Classics.
Mae cartŵn bywluniedig am fywyd Gerallt ar gael at YouTube yma (rhan 1) ac yma (rhan 2).