Olion Abaty Dinas Basing ger Treffynnon

Olion Abaty Dinas Basing ger Treffynnon

holywell_basingwerk_abbeyGellwch weld yma olion Abaty Dinas Basing ynghyd â gweddillion meinciau lle’r eisteddai’r mynachod am oriau bwy gilydd! Mae'r darlun (trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru) yn dangos yr olion yn 1845.

Sefydlwyd yr abaty gan Iarll Ranulf II o Gaer yn 1131. Roedd yr abaty yn eiddo i urdd Savigny ac ymunodd yr urdd honno â’r Sistersiaid yn 1147. Roedd Llywelyn Fawr (Tywysog Cymru) ac Edward I ac eraill yn noddwyr i’r abaty.

Treuliodd Baldwin, Archesgob Caergaint, a Gerallt Gymro noson yn yr abaty yn 1188 tra ar daith o gwmpas Cymru yn recriwtio ar gyfer y drydedd groesgad. Wrth deithio at Ddinas Basing o gyfeiriad Llanelwy daethant at ardal lle roedd mwyngloddiau yn estyn ymhell o dan y ddaear. Sylwodd Gerallt ar wythïen sylweddol o arian. Wrth deithio i gyfeiriad Caer fore trannoeth , teithiodd y fintai – yn ofidus - dros dywod sugn a mynd heibio i goedwig Coleshill (‘bryn o lo’) lle y nododd Gerallt mai yma y ceisiodd Harri II ymosod ar Gymru yn 1157, heb wrando barn yr arweinwyr lleol.

Yn dilyn gwaith ailadeiladu yn y drydedd ganrif ar ddeg, roedd eglwys, ysbyty, ffreutur a llety i ymwelwyr ar y safle. Lleolwyd prif adeiladau’r fynachlog o gwmpas sgwar agored. Bryd hynny roedd Ffynnon Gwenffrewi gerllaw, melinau a thir amaethyddol yn eiddo i’r abaty. Pan ymosododd Edward I ar y Cymry difrodwyd rhai o adeiladau’r abaty gan dân. Yn dilyn hynny cafwyd iawndal gan y brenin.

Yn y bymthegfed ganrif roedd gan yr Abaty fardd preswyl sef Guto’r Glyn. Ef, o bosib, oedd oedd un o’r goreuon o ran canu mawl i uchelwyr. Yn ystod y ganrif honno ac ymlaen i’r nesaf, bu Thomas Pennant, abad Dinas Basing, yn noddwr nodedig i’r beirdd. Adnewyddodd Pennant yr adeiladau wedi iddynt gael eu hesgeuluso am gyfnod maith. Diddymwyd yr Abaty yn y 1530au ar orchymyn Harri VIII.

Cludwyd trysorau o’r fan. Aeth cyfran o’r plwm i gastell Holt ger Wrecsam a chyfran i gastell Dulyn! Credir bod gwydr lliw o’r abaty i’w weld hyd heddiw yn eglwys y plwyf Llanasa. Meddiannwyd dogn o diroedd yr abaty gan deulu Pennant (disgynyddion yr abad). Un o’r rhain oedd Thomas Pennant, llenor ac awdur llyfrau taith yn y ddeunawfed ganrif.

Bellach, mae’r adfeilion rhestredig Gradd I dan ofal Cadw. Gerllaw, mae’r fynedfa i barc treftadaeth Maes Glas a cheir murlun yno yn dynodi man cychwyn Llwybr Pererinion Gogledd Cymru.

Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post : CH8 7GH       Map

Abaty Dinas Basing ar wefan Cadw

Gwefan Dyffryn Maes Glas

button_tour_gerald-E Navigation previous buttonNavigation next button