Cadeirlan Llanelwy

Cadeirlan Llanelwy

Yn ôl y chwedl, sefydlwyd eglwys a mynachlog yn Llanelwy yn y 6ed ganrif gan Sant Cyndeyrn, esgob Ystrad Clud (Strathclyde heddiw). Ei olynydd fel abad-esgob oedd Asa (neu Asaf), dyn lleol. Y mae ei enw i'w gael mewn mannau cyfagos, gan gynnwys Llanasa a St Asaph (Llanelwy).

Sefydlwyd yr eglwys gadeiriol yn 1143 gan y Normaniaid, a oedd wedi sefydlu eu hunain yn Rhuddlan gerllaw. Ymwelodd Gerallt Gymro a Baldwin, Archesgob Caergaint, â’r gadeirlan yn 1188 yn ystod eu taith trwy Gymru yn recriwtio ar gyfer y drydedd groesgad. Treuliodd y ddau y noson gynt yn Rhuddlan. Gweinyddodd Baldwin yr offeren yn y gadeirlan cyn ymadael i fynd i’r priordy yn Ninas Basing. Yn ôl dyddiadur Gerallt cadeirlan fechan oedd Llanelwy. 

Symudwyd creiriau Asaf yma o Lanasa erbyn 1281. Ailadeiladwyd y strwythyr yn helaeth o 1284 tan 1392 , gan ddefnyddio llawer o dywodfaen melyn o'r Fflint neu o Dalacre. Defnyddiwyd hefyd dywodfaen porffor, a gloddiwyd yn lleol. Roedd y gwaith milwrol ar Gastell Caernarfon tua’r un adeg yn dylanwadu ar agweddau o'r pensaerniaeth yma.

Difrodwyd yr gadeirlan nifer o weithiau, gan gynnwys yn y 13eg ganrif ac yng ngwrthryfel Owain Glyndŵr ym 1402. Adferwyd yr adeilad yn y 15fed ganrif, efo’r gwaith yn cynnwys darparu seddi amgaeedig – yr unig enghreifftiau sydd wedi goroesi yng Nghymru. Achosodd y Rhyfel Cartref ddifrod pellach, a syrthiodd rhan uchaf y tŵr mewn tywydd gwyntog yn 1714. Goruchwyliodd Syr George Gilbert Scott adfer yr adeilad o 1867 tan 1875.

Mae’r gofebion y tu mewn yn cynnwys bedd Anian II, esgob Llanelwy 1268-1293. William Morgan, esgob Llanelwy 1601-1604, oedd yn gyfrifol am y cyfieithiad Cymraeg cyflawn cyntaf o'r Beibl, a chedwir copi cyfoes yn yr eglwys gadeiriol.

Mae'r gan y gadeirlan dreftadaeth gerddorol hefyd. Yn 1972 dewisodd y cyfansoddwr William Mathias yr adeilad fel y lleoliad ar gyfer gŵyl gerdd newydd, Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, sy'n cael ei chynnal yn Llanelwy bob mis Medi. Bu farw yn 1992. Mae ei garreg fedd ar y chwith wrth i chi gerdded tuag at y gadeirlan o'r llidiart deheuol (gyferbyn â'r maes parcio).

Mae'r organ, gan William Hill yn 1824, wedi cael ei ehangu sawl gwaith. Disodlodd offer trydanol yr offer niwmatig yn 1966. Darparwyd cas derw pan ehangwyd yr organ gan Wood o Huddersfield yn 1998. Mae organydd y gadeirlan, Alan McGuinness, wedi recordio CD ar yr offeryn sydd ar gael o swyddfa'r eglwys gadeiriol. I glywed pwt o’r CD (Processional, gan William Mathias ), pwyswch y botwm chwarae: Neu, lawrlwythwch mp3 (734KB)

Côd post : LL17 0RD    Map

Gwefan y gadeirlan

button_tour_gerald-W Navigation previous buttonNavigation next button