Safle Brwydr Crogen, Melin y Castell

Safle Brwydr Crogen, Melin y Castell

Ym Melin y Castell yn nyffryn Ceiriog mae Llwybr Clawdd Offa, gerllaw safle brwydr a ddigwyddodd yn 1165 rhwng milwyr Cymru a byddin Harri’r II.

Pan esgynnodd Harri i’r orsedd yn 1154 daeth tiroedd helaeth yng Nghymru dan ei reolaeth. Y rheswm am hyn, yn rhannol, oedd bod tirfeddianwyr Powys am gael eu hamddiffyn rhag eu cymdogion yng ngorllewin Cymru. Roedd Harri yn frenin pwerus ac yn rheoli tiroedd eang yn Ffrainc yn ogystal â Lloegr.

Tanseiliwyd awdurdod Harri yn ddiweddarach yn dilyn anghydfod rhyngddo â Thomas Becket, Archesgob Caergaint. Roedd Becket wedi herio awdurdod y brenin wrth iddo amddiffyn buddiannau’r eglwys. Gwelodd yr arweinwyr o Gymru eu cyfle i ailennill y tiroedd a ildiwyd ganddynt i Harri. Ymateb Harri oedd anfon byddin gref i ardal Croesoswallt.

Am unwaith, roedd lluoedd Cymru yn unedig. A hwythau dan arweiniad Owain Gwynedd, oedodd y Cymry rhag ymosod tan fod byddin Harri yn nyffryn cul afon Ceiriog. Roedd eu gwybodaeth leol o fantais iddynt a hwyrach iddynt fanteisio ar olion Clawdd Offa a godwyd er mwyn amddiffyn Lloegr rhag y Cymry. Yn y frwydr lladdwyd llawer o filwyr ar y naill ochr a’r llall. Yn y pen draw, ciliodd lluoedd gorchfygedig Harri.

Soniodd Gerallt Gymro am y frwydr hon yn ei ddisgrifiad o’i daith o gwmpas Cymru gyda Baldwin, Archesgob Caergaint, yn 1188 er mwyn rectiwtio dynion ar gyfer y drydedd groesgad. Teithiodd y ddau o arfordir Gogledd Cymru trwy Gaer a Chroesoswallt tan iddynt gyrraedd at diroedd tywysogion Powys. Daethant i gwrdd â’r ymwelwyr. Nododd Gerallt fod ffermydd yr ardal yn nodedig am fagu ceffylau - ceffylau heirdd o dras Sbaenaidd.

Yn ôl Gerallt, pan ddaeth Harri II i Bowys yn 1165, llofruddiodd wystlon a llosgi eglwysi a phentrefi. Roedd meibion Owain am ddial trwy ymosod ar eglwysi yn Lloegr. Ond dywedodd Owain ei bod yn bwysig cael Duw o’u tu nhw. Barnai Gerallt mai gwers gan Dduw oedd cael eu trechu gan y Saeson.

Daeth yr ymweliad i ben pan deithiodd Gerallt a Baldwin i Henffordd trwy Llwydlo a Llanllieni.

Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Map

button_tour_gerald-E Navigation previous buttonrubber_bullet
button_tour_offas_dyke_We Navigation north to south buttonNavigation south to north button