Maes awyr Caernarfon, Dinas Dinlle

theme page link buttonMaes awyr Caernarfon, Dinas Dinlle

Agorodd y maes awyr ym 1941 fel RAF Llandwrog. Fe'i defnyddiwyd yn wreiddiol i hyfforddi criwiau ar gyfer cyrchoedd bomio dros wledydd Ewrop.

Roedd nifer o ddamweiniau awyr yn digwydd yn ucheldiroedd Gogledd Cymru yn ystod y rhyfel, ac roedd gan RAF Llandwrog offer annigonol i ymateb. Trefnodd  Flight Lieutenant George Graham gwasanaeth achub mynydd anffurfiol, gan ddefnyddio personél RAF a wirfoddolodd eu gwasanaethau (yn ogystal â gwneud eu gwaith arferol). Wedi hynny, dechreuodd gwasanaethau achub mynydd tebyg mewn gorsafoedd RAF. Ym 1944 cytunodd y Weinyddiaeth Awyr i greu Gwasanaeth Achub Mynydd yr RAF. Heddiw, lleolir y gwasanaeth hwn yn RAF Fali, Ynys Môn, ac mae wedi achub nifer o gerddwyr a dringwyr o rannau anhygyrch o Eryri.

Rhoddodd yr awyrlu’r gorau i faes awyr Llandwrog ym 1953. Heddiw, fel Maes Awyr Caernarfon, mae'n darparu cyfleusterau ar gyfer hyfforddi peilotau, teithiau pleser ac awyrennau preifat. Ers mis Gorffennaf 2003, mae hofrennydd Gogledd Cymru o'r elusen Ambiwlans Awyr Cymru wedi ei lleoli yma. Defnyddir yr hofrennydd i gludo clwyfedigion o wrthdrawiadau ar y ffyrdd a damweiniau eraill ar frys i'r ysbyty.

Ochr yn ochr â'r maes awyr y ma’r Airworld Aviation Museum, sy'n esbonio hanes Gwasanaeth Achub Mynydd yr RAF. Mae hefyd yn cynnwys cofnodion o ddamweiniau awyr yn Eryri, gydag arddangosfa o beiriannau a pethau eraill o awyrenau a ddisgynnodd ar y mynyddau neu i’r môr yn yr ardal.

Côd post: LL54 5TP    Map

Gwefan Airworld Aviation Museum

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button