Dinas Dinlle

Dinas Dinlle

Heddiw mae Dinas Dinlle yn fwyaf adnabyddus am ei draeth, ond tua 3,000 o flyneddoedd yn ôl roedd yma fryngaer fawr. Mae rhan o'r bryn wedi’i golli trwy erydiad gan y môr. Gellir gweld y gweddill ym mhen deheuol y traeth. Mae'r bryn yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae Dinas yn cyfeirio at y fryngaer, a Dinlle at yr ardal o amgylch y gaer. Cofnodir yr ardal ym 1352 fel Dinthle. Yn Swydd Amwythig ceir yr hen enwau Dinlle Vrecon (the Wrekin) a Dinlle Gwrygon (Kinnerley).

Fodd bynnag, dehonglwyd yr ôl-ddodiad -lle, ganrifoedd yn ôl, fel cyfeiriad at yr enw personol Lleu. Credir yn boblogaidd mai'r dehongliad hwn yw tarddiad yr enw.

Yn ôl y chwedl, magwyd Lleu Llaw Gyffes at y fryngaer. Mae hanesion ei arwriaeth yn Y Mabinogi, casgliad o straeon a gofnodwyd yn ysgrifenedig rhwng c.1100 a chanol y 14eg ganrif. Mae'r straeon yn ymwneud â chyfnodau cynharach mewn hanes, ac fe'u trosglwyddwyd ar lafar cyn cael eu cofnodi yn ysgrifenedig. Yn stori Blodeuwedd, mae Lleu yn cael ei dwyllo i ddatgelu sut y gellir ei ladd. Ar ei lofruddiaeth, mae'n troi'n eryr. Yn ddiweddarach mae'n cael ei droi yn ôl i ffurf ddynol ac yn rheoli Gwynedd.

Yn fwy diweddar o lawer, drylliwyd llong anarferol o’r enw “Chwadan Bill Parry” yma ym 1971. Roedd Bill Parry, pregethwr efengylaidd yng Nghaernarfon, yn bwriadu ymfudo i Awstralia mewn cwch amffibiaidd milwrol (cwch mawr gydag olwynion ffordd), un o nifer fawr a adeiladwyd yn UDA yn ystod yr Ail Ryfel Byd ar gyfer glaniadau D-Day. Enw dosbarth y math hwn o gerbyd oedd DUKW, a “duck” oedd yr enw poblogaidd. Llwyddodd y Parch Parry i gyrraedd Ffrainc ddwywaith, ond daeth ei drydydd ymgais – yr olaf – i ben gyda thranc y llong ar gefnen dywod yn Ninas Dinlle.

Côd post: LL54 5TW    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button