Castell Pared Mawr
Olion caer fechan o Oes yr Haearn sy’n gwarchod Porth Ceiriad yw Castell Pared Mawr, ar dir fferm Ysgubor Hen.
Saif y castell ger y Pared Mawr, clogwyn syth 300 troedfedd uwchben y mȏr ar ei ochr ddwyreiniol. Oddi mewn i’r castell mae llain hirsgwar, rhyw 130 troedfedd wrth 70 yn gogwyddo ychydig i’r dwyrain.
Ar ochr orllewinol y llain mae olion cwt crwn tua 22 troedfedd ar draws, a’r fynedfa iddo yn wynebu’r dwyrain. Roedd y fynedfa i’r gaer ei hun ar yr ochr ddeheuol yn wynebu’r môr. Gwelir ffos amlwg ar yr ochrau gogleddol a gorllewinol. Y gaer hon roddodd enw i’r porth islaw, sef caer+iad (ceiriad) – safle’r gaer. Saif ar dir preifat.
Gyda diolch i Diogelu Enwau Llanengan
![]() |
![]() ![]() |