Porth Neigwl, ger Abersoch

theme page link buttonMae harddwch a llonyddwch y traeth hwn yn denu llawer o ymwelwyr, ond mae’r enw a roir arno’n Saesneg, sef Hell’s Mouth, yn rhoi awgrym sut y gwelai morwyr y lle ers talwm!

Fodd bynnag, ystyr yr enw Cymraeg ‘Porth’ yw rhyw fath o fae, ac mae’n siŵr mai enw person oedd Neigwl, enw a ddaeth, o bosib, o’r Wyddeleg neu o iaith Sgandinafia. Roedd Neigwl (Neugell yn yr 16eg ganrif) yn ganolbwynt i gwmwd Cymydmaen, a Phorth Neigwl oedd y fynedfa i’r cwmwd mewn oes pan oedd teithio ar y môr yn haws na theithio dros y tir.

abersoch_hells_mouth_jettyMae amrywiadau ysgrifenedig cynnar ar yr enw yn cynnwys Bae Nygell yn yr 16eg ganrif, Porthnegol ym 1561-2, porth Nigwl ym 1629 a Neigwl or Hell's Mouth ym 1805. Enillodd yr enw Saesneg ei blwyf yn ystod y twf mewn twristiaeth yn yr ardal.

Mae mwy na 140 o longddrylliadau wedi eu cofnodi yn y fan hon, sydd mor agos at lecyn cysgodol Ffyrdd Sant Tudwal (i’r dwyrain o Abersoch). Pe bai’r prifwynt yn chwythu llong i mewn i Borth Neigwl, roedd hi bron yn amhosibl dianc, ac yn aml iawn byddai capteiniaid yn ceisio glanio’r llong ar y traeth, cyn gadael pan fyddai’r tywydd yn well. Fodd bynnag, drylliwyd sawl llong ar y traeth, gan gynnwys y sgwner Twelve Apostles yn 1898. Fe’i hadeiladwyd ym Mhwllheli gyda cherfiad o Sant Paul ar ei blaen. Roedd y Twelve Apostles yn ffefryn gan bobl Porthmadog.

Roedd stemars yn casglu manganîs oddi ar lanfa ym mhen gorllewinol y bae (y llun drwy garedigrwydd Rhiw.com). Cafodd un stemar o Wlad Belg ei ddal mewn gwynt, ac fe’i drylliwyd ger y lanfa. Gallwch ddarllen yr hanes ar y dudalen hon.

Yn driw i’w lysenw Saesneg, bu’r bae’n lleoliad ymarfer arfau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ceisiai peilotiaid dan hyfforddiant o RAF Penrhos daro targedau ar wyneb y dŵr. Hefyd roedd tyredau gynnau ffug mewn caeau cyfagos, lle saethai milwyr dan hyfforddiant at fodelau o awyrennau’r Almaen. Ehangodd RAF Porth Neigwl wedi i RAF Penrhos gael ei daro dro ar ôl tro gan fomiau’r Almaen ym 1940 a bu i’r Awyrlu symud rhai o’r awyrennau yno.

Ym 1955 bu chwilio mawr pan ddaethpwyd o hyd i ddillad y Parch Philip Ross, ficer o Sir Gaer, ar y traeth. Ymddengys iddo fod yn nofio cyn brecwast, fel yr arfer, ond na ddychwelodd at ei wraig yn eu carafán. Yn 1956 fe ddyfarnwyd ei fod wedi marw, hyd nes y canfuwyd ei fod yn byw gyda dynes arall yn Llundain, ar ôl ffugio ei farwolaeth yma!

Gyda diolch i’r Athro Hywel Wyn-Owen, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, Adrian Hughes, o Amgueddfa Home Front, a Rhiw.com. Hefyd i AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) Llŷn am y cyfieithiad

Map

Mwy o hanes y Parch Ross – gwefan Rhiw.com

Gwefan AHNE Llŷn

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button